Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARGARET ERINA MORRIS, ABERYSTWYTH (1937-1987) Hon a garodd lên gwerin aelwydydd Tlodaidd ei chynefin; Bro Glasynys, rymus rin, Bro'r duwiau, llwybrau'r dewin. I dorf y rhai diarfau y llusgai Mewn llesgedd a phoenau: Dewr oedd hon, brwd i rwyddhau A chael o'r ferch ei hawliau. Er y dolur a'i daliai, gwên heulog Anwylaf ni phallai; Dewr o hyd a'i hoes ar drai, Hon â'i dewrder a'n dwrdiai. Wedi'i horiau blinderog, ei dewis Mor dawel a phwyllog; Hafan hedd, cynefin og, Llain o dir yn Llandwrog. Dydd Calan, 1988 Derwynjones MOSES WILLIAMS (1685-1742) (Wedi ymweld ag Eglwys Defynnog) Yma'n Sant Cynog bu'r ysgolor trwm yn mynd a dod ar holl alwadau'r plwy': yn torri'r bara i werinwyr llwm a rhoi yr eli ar eu briwiau hwy. Ac yn ei dipyn hamdden trosi ar lam o waith y Sais, a dwyn cyfieithiad gwell o drysor Gair ei Dduw yn iaith ei fam i Gymry'r dydd yn eu disberod pell. Ond fe enynnodd yr arloesol waith lid prelad ac archddiacon yr awr, anathema i'r cyfryw oedd ein hiaith a'n gwlad yn ddim ond rhan o Loegr fawr. Yn wrthodedig gan ei Eglwys glaf troes yntau'n llaith ei rudd am Wlad yr Haf. John Edward Williams