Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ai bod ai peidio â bod? Cwestiwn democratiaeth leol ym Mhrydain Oddi ar ad-drefnu mawr 1974, pan sefydlwyd wyth cyngor sir yng Nghymru yn lle tri ar ddeg, a 37 cyngor bwrdeistref neu ddosbarth yn lle 164, bu llywodraeth leol tan ordd y llywodraeth ganol a'r wasg boblogaidd. Cychwynnodd dirwasgiad economaidd y blynyddoedd diwethaf fwy neu lai yr un pryd â dyfodiad y cynghorau newydd. Anodd dweud felly ai chwyddiant gweinyddol ynteu chwyddiant economaidd a fu'n gyfrifol am yr anfodlonrwydd, ai athroniaeth y Ceidwadwyr newydd sy'n credu fel efengyl mai parasitiaid ar yr economi preifat yw cyrff cyhoeddus, ynteu tranc yr hen deyrngarwch sirol a threfol a warchodai ryw gymaint ar eu rhagflaenwyr. Nid pob sir newydd a oedd ag arwyddair parod fel Cadernid Gwynedd, nid pob cyngor dosbarth a allai ddal i fynnu, gyda pheth argyhoeddiad, Tra Môr, Tra Meirion. Melltith fwyaf yr ad-drefnu a awdurdodwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972, fodd bynnag, oedd y ffaith na chafodd yr un o'r comisiynau a phwyllgorau swyddogol a fu'n paratoi'r ffordd, astudio cyllid llywodraeth: leol yn ogystal â maint a ffiniau awdurdodau. Codi gobeithion am well gwasanaeth a wnaeth eu hadroddiadau, heb sicrhau y byddai'r arian ar gael yn lleol i'w sylweddoli. Erbyn i Bwyllgor Layfield gyflwyno adroddiad ar Gyllid Llywodraeth LeolI i'r Senedd ym Mai, 1976, yr oedd cyfle'r ganrif wedi ei golli. Yn y bôn, dyna paham y mae cynifer yn sôn heddiw am dranc terfynol democratiaeth leol wrth i'r Senedd ystyried Mesur Cyllid Llywodraeth Leol sy'n diddymu'r dreth leol ar eiddo, Mesur Diwygio Addysg sy'n llacio gafael Cynghorau Sir ar eu gwasanaeth amlycaf, mesur tai arfaethedig a fydd yn effeithio yn yr un modd ar Gynghorau Dosbarth a Mesur Llywodraeth Leol arall sy'n ymyrryd â rhyddid cyhoeddusrwydd cynghorau lleol ac yn gorfodi mwyfwy o breifateiddio arnynt.2 Yn ôl y Comisiwn Archwilio, rhwng y mesurau hyn a newidiadau tebygol yn y gwasanaethau cymdeithasol, fe allai gwariant Cynghorau Sir Lloegr ostwng cymaint â 34% yn y man.3 Yn ôl Lytton Strachey, unig ffrwyth llawer Comisiwn Brenhinol yw, 'the concoction of a very fat blue book on a very high shelf.'4 I'r categori hwn yn sicr y perthyn cyfrol las Pwyllgor Layfield. Os oedd trafod ail-drefnu llywodraeth leol heb drafod cyllid, yn null Comisiwn Redcliffe- Maud, fel Hamlet heb y tywysog, yr oedd trafod cyllid ar ei ben ei hun fel araith ail act bwysicaf y tywysog heb weddill y ddrama. Ond o leiaf yr oedd prif gasgliad Layfield, megis araith enwog y tywysog, yn werth ei gael ar ei ben ei hun, a'r naill fel y llall yn gofyn yr un cwestiwn: 'to be or not to be.' Gwelodd Layfield fod cynnydd parhaus dylanwad y Llywodraeth Ganol