Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

darfod Ni fedrent actio unrhyw drasiedi a'ch gwanai mor llym â'u helynt helbulus eu hunain'. Clywn amdano'n grwt yn crwydro'r ardal, yn chwythu organ hynafol Pencraig i ffrind a geisiai ymgodymu â gwaith Bach a Handel,10 ac amdano'n mynd gyda'r dyrfa fwyaf a welwyd erioed i bentref cysglyd Colfa i weld awyren am y tro cyntaf." 0 gymharu ei ddisgrifiadau ef â'r rhai a geir yng ngweithiau Geraint Goodwin, Arthur Machen, Hilda Vaughan, Raymond Williams, neu hyd yn oed yn nofel ysgytwol Bruce Chatwin, On The Black Hill, tueddaf i feddwl mai yng ngweithiau Ffransis Payne y cyfleir orau naws y ffin a natur ei thrigolion. Y wyrth yw mai yn yr iaith Gymraeg y gwnaed hynny. Dywedodd Raymond Williams fod pobl y Mynyddoedd Duon yn sôn am y Saeson a'r Cymry, fel ei gilydd, fel petaent yn ddynion dieithr:12 I have heard both groups talked about as if they were other than the people here, which is clearly impossible. I suppose it is the sort of thing that happens in a border area, that people can't quite orientate. Nid felly y bu hi yn achos Payne. Fe'i hudwyd erioed gan y gorllewin: 'yno yn y gorllewin yr oedd fy ngwreiddiau a'm serchiadau fel y'm magwyd a'm maethu a'm cefn tuag at Loegr fel petai'. Fe1 Cymro y'i hystyriai ei hun o'i ddyddiau cynnar. 14 Cawsai ambell air ac ymadrodd Cymraeg gan ei dad a fu farw pan oedd Payne yn nawmlwydd oed a thipyn o anogaeth gan ei fam i ddysgu'r iaith. Yr oedd rhyw ysfa ynddo i ddeall ystyr yr enwau lleoedd Cymraeg a glywai o'i gwmpas, a hynny'n gysylltiedig â'i chwilfrydedd ynghylch hanes y fro. Wrth ganu yng nghôr Eglwys y Santes Fair ym mhen ucha'r dref, syllai i gysgodion oer Capel y Fychaniaid lle gorweddai Tomos ap Rhoser o Hergest, a'i wraig yn eu 'caer o alabaster gwyn'.15 Yn bedair ar ddeg oed, dyma ddarllen llyfr Richard Parry ar hanes Ceintun, a chael ynddo gyfieithiad o'r cywydd gan Lewis Glyn Cothi sy'n disgrifio'r beddrod hwnnw:16 Cofiaf hyd heddiw y cyffro a gododd ynof wrth imi ei ddarllen a chlywed llais o'r oesoedd canol yn disgrifio rhywbeth cartrefol a welwn i mor aml. Heddiw wrth edrych yn ôl credaf mai'r funud honno y cefais wybod fod hanes yn rhywbeth agosach ataf na phwnc ysgol. Y mae tarddle prif ddiddordebau fy mywyd yn y funud honno, ac yn y fan hon lle gwelais am y waith gyntaf uno hanes a llenyddiaeth a bro. Sylweddolodd yn ogystal mai'r iaith Gymraeg oedd yr allwedd i ddeall yr undod hwnnw. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi iddo agor drws y trysordy hwn ac ymsefydlu mewn swydd yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, cyfarfu ag un o'i hen athrawon. 'At last', meddai hi, 'you've got the job you're fitted for. But why on earth did you arrive at it by such a roundabout method?' Atebodd Payne: 'That was the only way I could have arrived at it. It was the only way which had fitted me for it'. Annie Hughes oedd enw'r ysgolfeistres: merch i offeiriad o ardal Llanelli, 'athrawes fach wyrthiol' a adawsai goleg Aberystwyth heb radd,