Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dau fater yn ymwneud â Dafydd ap Gwilym Yn rhifyn Ionawr 1987 o Y Traethodydd\ fe gyhoeddwyd cerdd wamal gen i. Yr oeddwn wedi ei galw yn 'draethodl'. Wedi iddo ei gweld amheuodd cyfaill o'm heiddof a oedd y gerdd yn 'draethodl' gan nad oedd pob llinell ynddi'n saith sillaf. Fe wyddwn i hynny o'r gorau ond fe wyddwn hefyd nad oedd pob llinell o'r gerdd 'Y Bardd a'r Brawd Llwyd' gan Ddafydd ap Gwilym* yn rhai saith sillaf, ac eto fe elwir y gerdd honno'n 'draethodl'. Hyn a barodd imr fynd ati i ystyried ymhellach y mater cyntaf hwn, sef y 'traethodl'. Yn Cerdd Dafod dywedir hyn am y 'traethodl': It^Í debyg bod cwpledau odledig o saith sillaf, fel a welir yn 'Nhraethodlau' D.G. yn hen fesur gan y glêr.3 Y dybiaeth gyffredin tybiaeth a geir gan Syr John Morris-Jones4 ac a gadarnhawyd gan Syr Thomas Parry* yw mai cywreinio'r 'traethodl' a wnaeth beirdd cerdd dafod a'i droi'n gywydd deuair hirion. Y tebyg yw fod Dafydd ap Gwilym a beirdd eraill o'r bedwaredd ganrif ar ddeg wedi mabwysiadu'r 'traethodl', wedi dwyn cynghanedd i'w linellau, a pheri i air olaf un llinell ymhob pennill ohono fod yn acennog a'r gair olaf yn y llinell arall fod yn ddiacen. Hyn a roes fod i'r cywydd deuair hirion. Fe ddengys y ddau bennill a ganlyn y gwahaniaeth a olygir: Ymddiddan y brawd llygliw Amdani y dydd heddiw. (Traethodl)6 A mwyn adar a'm carai A merch a welswn ym Mai. (Cywydd)7 Fel y noda John Morris-Jones, y dybiaeth ynglyn â'r 'traethodl' yw ei fod yn 'hen fesur y glêr'. Yn yr achos hwn y 'glêr' yw'r beirdd a ystyriai beirdd cerdd dafod y dydd eu bod yn isradd iddynt hwy am nad oeddynt wedi eu hyfforddi yn y grefft farddol fel yr oeddynt hwy. Defnyddir yr enw hefyd am ysgolheigion neu fyfyrwyr crwydrad yr Oesoedd Canol a oedd yn dal rhyw lun o gysylltiad â'r eglwys, y clerici vagantes. (I gymhlethu pethau ymhellach fe ddefnyddir yr enw am feirdd cyfundrefn cerdd dafod hefyd, ond nid oes a wnelo hynny â'r mater dan sylw.) Nid oes enghreifftiau o 'draethodl' y glêr 'isradd' Gymraeg cyn amser Dafydd ap Gwilym ar gael. Nid oes ychwaith, hyd y gwn i, enghraifft o unrhyw fesur caneuon y clerici vagantes sydd wedi goroesi sy'n cyd- ymffurfio a diffiniad Syr John Morris-Jones o'r 'traethodl'. Ond fe ellid bod wedi cael awgrym o'r mesur o fesurau caneuon ieithoedd eraill Lladin, Ffrangeg, Gwyddeleg awgrym a ddatblygodd yn y diwedd yn gywydd deuai hirion.8 Rhaid cofio, hefyd, fod y cywydd deuair hirion yr