Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawysgrif gan T. Gwynn Jones Mae gennyf yn fy meddiant lawysgrif a fydd, mi hyderaf, o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Traethodydd. Llawysgrif ydyw yn llaw un o'n beirdd mwyaf, T. Gwynn Jones. Heblaw bod yn ddiddorol o ran ei chynnwys, ceir ynddi hefyd, os llyfryddiaeth D. Hywel E. Roberts (Caerdydd, 1981) yw'r awdurdod terfynol, rai cerddi cyfíeithiedig nas cyhoeddwyd eto. Cefais y llawysgrif o gasgliad llyfrau'r diweddar John Barret Davies, Brynbuga, cyfaill mawr i'm teulu, wedi ei farw ym mis Medi, 1976. Offeiriad plwyf Pabyddol oedd J. B. Davies a hanoedd o Lundain ac a ymserchodd yn fawr yng Nghymru, gan feistroli'r Gymraeg yn wych ac ymgymreigio'n ddwfn. Yr oedd hefyd yn ddiwinydd ac ysgolhaig praff a wnaeth gyfraniadau tra gwerthfawr i astudiaethau Cymraeg a Chymreig; er enghraifft, fe drosodd y Fwlgat i Gymraeg urddasol a dirodres a sgrifennu erthyglau ar ddiwinyddiaeth a saint Cymru mewn cylchgronau Pabyddol fel Efrydiau Catholig a Blackfriars. Gresyn nad yw ei enw a'i waith yn fwy adnabyddus ym myd ysgolheictod Cymreig fel yr haeddant fod. Yn fuan wedi ei urddo'n offeiriad yn 1925, fe aeth i Aberystwyth yn beriglor cyn i'r Brodyr Carmel ymsefydlu yno ac fel hyn fe ddaeth i adnabod T. Gwynn Jones yn dda canys daliai'r bardd Gadair Llenydd- iaeth Gymraeg Coleg y Brifysgol ar y pryd ac ymddiddorai'n fawr mewn Pabyddiaeth. Tebyg mai yn y cyfnod hwn y daeth y llawysgrif i'w feddiant. Rhoddaf yn gyntaf ddisgrifiad o'r llawysgrif a'i chynnwys, gyda pheth sylwebaeth. Yna cyflwynaf y darllenydd i'r cerddi anghyhoeddedig. Llyfryn 17.7 x 11.5 cm. ac Iddo gloriau papur brown yn eu gorchuddio yw'r llawysgrif. Cynnwys bedair a deugain o dudalennau heb eu rhifo, a hefyd, rhwng y tudalen olaf a'r clawr, bedair dalen rydd sy'n ddarnau o daflenni arbennig ar gyfer cofnodi tafodieithoedd Cymraeg, gwaith a gychwynnwyd gan Syr Edward Anwyl yn 1909 pan oedd yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth ac y cymerodd Gwynn Jones ran ynddo. Fe'u defnyddiwyd i sgrifennu areu cefnau ac ni pherthynant i'r llyfryn yn wreiddiol. Rhifwyd tair ohonynt. (Nid oes, gyda llaw, unrhyw eiriau tafodieithol wedi eu nodi arnynt yn unman.) Dim ond ar du blaen dalenni'r llyfryn y sgrifennwyd. Destlus yw llawysgrifen y llyfryn a'r pedair dalen, ond yn ychydig o linellau'r cyfieithiadau croeswyd allan neu danlinellu air neu eiriau a dodi, gan amlaf, rai eraill wrth eu hymyl neu uwchlaw iddynt. Ar du mewn clawr cyntaf y llyfryn ceir y geiriau: 'I Syr Herbert Lewis oddi wrth T. Gwynn Jones 30.x.'29', ond wedi eu croesi allan gan yr un llaw. Uwchlaw, ceir y geiriau: 'Gyrrwyd copïau i Syr Herbert Lewis, 4.xi. '29, ar ei gais', drachefn yn yr un llaw, a