Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

D. R. GRIFFITH, Defosiwn a Direidi (Gwasg Gee, Dinbych, 1986) Pris: £ 3.50. Mae'r llyfr hwn fel drws agored yn gwahodd darllenwyr i fynd i mewn i gartref teulu nodedig. Ynddo mae Robin Gwyndaf yn cyflwyno i ni aelodau'r teulu agos, a'u tylwyth. Sylweddolwn yn fuan ein braint gan fod aelodau'r teulu i gyd yn alluog, a gwr y tŷ, ei ddiweddar wraig a'i ferch i gyd yn ysgolheigion. Y Parch. D. R. Griffith, a oedd hyd ei ymddeoliad yn 1979, yn ddarlithydd mewn astudiaethau Beiblaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a brawd i'r Athro Emeritus J. Gwyn Griffiths, yw gwr y ty ac awdur cynnwys y llyfr. Mae hanes y teulu, a'u lluniau, yn symud unrhyw ddieithrwch a theimlwn yn ddiolchgar i Robin Gwyndaf am ein croesawu ar y trothwy, fel petai. Ond estyn ei gymwynas ymhellach. Mae'n cyflwyno i ni hefyd y Caneuon, yr Emynau a'r Pytiau Byrion, gwaith D. R. Griffith, prif gynnwys y llyfr (o dudalen 27 i dudalen 111). Mae'r darnau i gyd yn hawdd eu darllen, i gyd yn ddiddorol, a rhai ohonynt yn drysorau parhaus. Y mae rhai o'r emynau eisoes wedi'u cynnwys yn llyfrau emynau mwy nag un enwad, ac ni bydd yn syn os cynhwysir eraill yn y dyfodol. Wedi dod trwy'r drws a manteisio ar adnabyddiaeth Robin Gwyndaf o'r teulu ac o'r awdur, ac wedi aros gyda'r cynnwys, sylweddolwn i ni ddod i gartref unigryw, ac eto teimlwm i ni ddod i awyrgylch gynefin. Awyrgylch mans Anghydffurfiol, ac awyrgylch cartrefi credinwyr Anghydffurfiol yng Nghymru yn nhri chwarter cyntaf y ganrif hon. Cartrefi lle 'roedd y ffydd Gristnogol a'r diwylliant Gymraeg yn hydreiddio pob rhan o fywyd. Mae nifer 'manses' o'r fath wedi lleihau'n gyflym. Ai'r un fydd tynged y cartrefi cyffelyb? Wrth ddangos natur cynnwys y llyfr, y mae cyflwyniad rhagorol Robin Gwyndaf yn rhybudd o faint y golled a fydd os diflanna'r cyfryw gartrefi. Dyma a ddywed am fyrdwn canu D. R. Griffith: 'Salm o fawl ydyw i orfoledd a rhyfeddod byw a bod. Canu i'r cariad tragwyddol sy'n pontio cyfandiroedd ac yn rhychwantu amser, yn clymu dyn a dyn yn gadwyn gref ac yn troi'r marw'n fyw. Y mae hefyd yn weddi'r gweddïwr ar gân mewn cerdd ac emyn am i ninnau gael teimlo gronyn o'r cariad hwn a'i rannu ag eraill, fel y bo iddynt hwythau, fel ninnau, brofi o wynfyd y rhai sy'n rhoi yn hytrach na derbyn'. Adolygiad HUW WYNNE GRIFFITHS