Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Parchedig Owen Ellis Evans, M.A., B.D. Eleni, ym mlwyddyn dathlu gwaith yr Esgob William Morgan yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg am y tro cyntaf erioed, yr ydym wedi ein hatgoffa unwaith eto o'n dyled anferth i gymwynaswyr mawr ein cenedl. Nid unwaith na dwywaith y clywsom ddarllen geiriau Ecclesiasticus XLIV: Canmolwn yn awr y gwyr enwog, a'n tadau a'n cenhedlodd ni. Llawer o ogoniant a wnaeth yr Arglwydd trwyddynt hwy, â'i fawredd erioed 'Roedd yr Esgob Morgan, fel y clywsom ni gan fwy nag un ac yn arbennig gan y Dr. Isaac Thomas da yw deall y gallwn ddisgwyl ganddo gyfrol o astudiaethau i gyflawni ei lyfr gwych William Morgan a'i Feibl yn ysgolhaig yn ogystal ag yn glerigwr, ac nid oes eisiau i ni beidio â chredu na chafodd lawer iawn o fwynhad wrth arfer ei ysgolheictod a'i estyn i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn ogystal â llawer o lafur a thrafferth, ac wrth gwrs, nid yw ein dyled iddo yn ddim llai oherwydd hynny. Gallwn gredu fod yr ysgolheigion a fu wrthi'n cyfieithu Beibl 1988 hwythau wedi cael hyfrydwch yn ogystal â blinder yn y gwaith. Yr hyn sydd yn bwysig ei gofio yn yr oes faterol hon yw fod y gwaith wedi golygu aberth. Fel y dywedwyd: Cyn belled ag yr oedd eu dyletswyddau yn caniatáu, rhoesant i'r gwaith hwn flaenoriaeth ar bob gofyn arall ar eu hamser a'u hadnoddau. Sylwer mai llafur cariad, didâl, oedd y cyfan. Trist yw meddwl fod rhai ohonynt wedi ein gadael heb weled cyhoeddi ffrwyth eu llafur. Un o'r rhai a fuasai wedi llawenhau'n fawr wrth weled cyhoeddi Beibl 1988 fuasai Syr Thomas Parry ac nid heb achos. Ef fu'r mwyaf ei ofal am yr iaith y cyfieithwyd y Beibl iddi. Adolygodd Gymraeg pob rhan ac eithrio un llyfr o'r Hen Destament ac un llyfr o'r Apocryffa. Y gwr mwyaf ei ofal am gywirdeb y cyfieithu o'r ieithoedd gwreiddiol fu'r Parchedig Owen E. Evans, er mai arbenigwr yng Ngroeg y Testament Newydd yw ef yn bennaf. Ef fu cyfarwyddwr y gwaith o 1974 hyd 1988. Ef a olynodd y Parchedig Athro Bleddyn Jones Roberts a olynasai y Parchedig Brifathro W. R. Williams, prif ysgogydd penderfyniad Cyngor Eglwysi Cymru i gael cyfieithiad newydd. Oherwydd gwaeledd ni allodd y Prifathro wneud llawer i hybu'r gwaith yn ei flaen ac ymddengys mai araf fu'r datblygiadau dan ei arweiniad, ond cyflymasant dan gadeiryddiaeth y Parchedig Athro Bleddyn Jones Roberts. Buwyd yn ffodus iawn yn y blynyddoedd cynnar fod ysgolhaig mor llawn a phrofiadol â'r Athro Bleddyn Jones Roberts yn arweinydd i'r fentr; ef a