Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau ar fywyd William Morgan a'i gyfnod* Ym mis Medi 1588 bu digwyddiad hynod o bwysig yn Llundain. Fis ynghynt, yn eglwys gadeiriol Sant Paul yn y ddinas honno, bu teyrnas Lloegr yn dathlu ac yn diolch am ei gwaredigaeth rhag ymosodiad gan luoedd Sbaen trwy ei buddugoliaeth dros yr Armada Sbaenaidd. Achub- wyd teyrnas Lloegr a chenedl y Saeson. Digon distaw oedd yr ail ddigwyddiad ym Medi. Cyhoeddi llyfr a wnaed, sef cyfieithiad meistraidd y Dr. William Morgan o'r ysgrythurau i'r Gymraeg, ond bu'r digwyddiad hwnnw yr un mor dyngedfennol i hanes ein gwlad ninnau. Bu'n asgwrn cefn grymus i grefydd Brotestannaidd yng Nghymru, i'r iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac yn wir i fodolaeth cenedl Gymreig yn ei dro. Ys dywed un hanesydd cyfoes o fri, Glanmor Williams, wrth edrych yn ôl tros brofiad pedwar can mlynedd: "Roedd yn ddigwyddiad mor hanesyddol er sicrhau hunaniaeth annibynnol Cymru ag oedd trechu'r Armada i amddiffyn annibyniaeth Lloegr'.1 Ac felly wrth i ni nesáu at ddathlu pedwar canmlwyddiant y digwyddiad hwnnw, a phedair canrif o Ysgrythurau Cymraeg, cofiwn hefyd am y cyfieithydd ei hun a'i ganmol yntau. Ond beth am ei fywyd, a'r byd yr oedd yn byw ynddo? Beth am y dyn a gyflwynodd i'r Cymry eu Beibl eu hunain, ac i ba fath ar fyd y cyflwynwyd ef? 'Roedd yr unfed ganrif ar bymtheg y ganwyd ef iddi yn y Tyddyn Mawr ym Mlaen Wybrnant rhwng Penmachno a Dolwyddelan yn nechrau 1545 a'r ganrif flaenorol yn sicr yn oes o newid sylfaenol ledled Ewrob, a dylanwadodd y mudiadau hynny a newidiodd y bywyd Ewropeaidd, ar Gymru hefyd. Yn gyntaf, gwelwyd newidiadau gwleidyddol o fewn sawl rhan o'r cyfandir. Dyma oes Ferdinand ac Isabella yn Sbaen; Ffransis I yn Ffrainc ac yn ddiweddarach, Siarl V, yr Ymherodr Rhufeinig Sanctaidd. Bu'r rhain oll yn ceisio sicrhau rhyw gymaint o undod gwleidyddol neu weinyddol o fewn eu tiriogaethau yn eu tro. Yn yr un modd, trwy Ddeddfau Seneddol a basiwyd rhwng 1535 a 1542,2 clymwyd Cymru mewn perthynas weinyddol fwy clos â Lloegr wrth i Harri VIII yntau geisio dwyn gwahanol rannau ei diriogaeth i berthynas nes â'r canol- er i hyn olygu, o fewn Cymru ei hun, fod nifer helaethach o wyr lleol nag a fu yn gweinyddu'n lleol ar ran y goron, gan ymddyrchafu yn y broses. Golygai hefyd fod penderfyniadau teyrnedd fel Harri a'i ddisgynyddion ynghyd â'u gweision yn effeithio yn eu tro ar Gymru. Ni ellir gwadu yn wir mai penderfyniad brenhinoedd Lloegr i wneud ffydd Brotestannaidd yn ffydd swyddogol unffurf yn eu tiriogaeth, a'u hawydd i weld sicrhau hynny mewn rhan na ddeallai yr iaith swyddogol y cyflwynwyd y grefydd