Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau ar Hanes y Fersiynau Cymraeg o V Testament Newydd, 1620-19751 I. Diwedd astudiaeth fanwl ac ysgolheigaidd Dr. Isaac Thomas o'r Fersiynau Cymraeg cynnar o'r Testament Newydd2 yw man cychwyn yr astudiaeth hon. Fy mwriad yw ceisio olrhain hanes, a thrafod dulliau, natur ac arwyddocâd y Fersiynau Cymraeg o Ysgrythurau*r Testament Newydd a ymddangosodd rhwng 1620 a'n dyddiau ni. Arolwg hanesyddol yn bennaf fydd cynnwys yr ymdriniaeth. Fel rhagarweiniad i'r arolwg hanesyddol, fodd bynnag, rhaid dweud rhyw gymaint am ddulliau ac egwyddorion cyfieithu'r Ysgrythurau. Y mae'n sefyll i reswm fod dau ddewis yn agored i rywun sy'n mynd ati i baratoi fersiwn newydd o'r Beibl (neu o unrhyw gampwaith llenyddol arall o ran hynny) mewn iaith sydd eisoes yn meddu ar gyfieithiad clasurol ohono cyfieithiad sydd wedi bwrw gwreiddiau dwfn yn nhraddodiad crefyddol a diwylliannol a llenyddol y genedl biau'r iaith, a chyfieithiad sydd wedi hen ennill ei Ie ym meddwl a chalon, yng nghof a phrofiad, ym myfyrdod a defosiwn y werin a feithrinwyd arno. Mewn gair, cyfieithiad fel yr 'Authorized Version' o'r Beibl Saesneg neu 'Feibl William Morgan' yn Gymraeg. Gvda llaw, fel 'Beibl William Morgan' yr ydym ni fel Cymry ers pedair canni wedi arfer cyfeirio at ein Beibl, er gwaethaf y ffaith mai'r fersiwn a fu ar arfer yn ein plith ers dros dair a hanner o'r pedair canrifyw, nid y fersiwn gwreiddiol a ddaeth o law William Morgan ei hun yn 1588, ond y fersiwn diwygiedig ohono a gyhoeddwyd yn 1620, y fersiwn y bu'r Esgob Richard Parry a Dr. John Davies Mallwyd yn gyfrifol am ei baratoi. Bu llawer o atgyweirio, ac o addasu ar gyfer datblygiadau chwyldroadol yn hanes trafnidiaeth, ar Bont y Borth yn ystod y ganrif a hanner diwethaf, ond fel 'Pont Telford' y cyfeirir ati o hyd a hynny'n gwbl gywir a phriodol. A'r un mor gywir a phriodol yw inni gyfeirio at y Beibl Cymraeg, er mai yn fersiwn diwygiedig 1620 y mae'r mwyafrif mawr o'r Cymry'n gyfarwydd ag ef, fel 'Beibl William Morgan'. Y cyntaf o'r ddau ddewis sy'n agored i'r sawl a fyn baratoi fersiwn newydd o'r Beibl mewn iaith fel y Gymraeg neu'r Saesneg yw diwygio'r hen fersiwn. Yr wyf newydd atgoffa'r darllenydd mai diwygiad o Feibl 1588, ac nid fersiwn newydd ac annibynnol, oedd Beibl 1620. Neu'n gywirach, cyn belled ag y mae a wnelom a'r Testament Newydd, diwygiad o ddiwygiad o Destament 1588, oherwydd profodd Isaac Thomas yn ddigamsyniol mai cynsail Testament Newydd Parry a Davies oedd, nid Testament Newydd Beibl 1588 ond y diwygiad ohono yr oedd yr Esgob