Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Llyfr y Tri Aderyn a Beibl Morgan Llwyd Er mai adar sy'n ymgomio yn Llyfry TriAderyn, llais dynol sydd gan bob un ohonynt, a rhyngddynt maent yn datgan amryfal athrawiaethau sectau Piwritanaidd y cyfnod pan oedd y deyrnas heb frenin. Os taw dysgeidiaeth y Golomen sy'n ein hargyhoeddi ni'n bennaf wrth inni wrando arnynt yn ymddiddan, yna un rheswm am hynny yn ddiau yw bod tinc pryder personol dwys am gyflwr ysbrydol truenus yr enaid i'w glywed yn gyson yn ei lleferydd hi. Yn wir wrth graffu ar ddarnau tebyg i'r canlynol, hawdd credu ein bod ni'n ymgyfarfod â Morgan Llwyd ei hun, a'n bod yn ymwybod â holl angerdd ei gariad arbennig ef at ei gyd-ddyn: Er hynny, mae rhyw doriad anhraethadwy yn fy nghalon i wrth feddwl am golledigaeth dyn, ac wrth edrych arno yn ddall, yn fud, yn fyddar, yn dlawd, yn noeth, yn glwyfus, yn gloff, yn glaf, ie yn farw, och, och, a dyfna' och yw tewi (I. l 93). Diffuantrwydd tyner y siaradwr dyna sy'n ein cyfareddu ni, a dyna yn ei dro a all ein denu ni i 'weld y goleuni mewn cariad', yn unol â dymuniad y Golomen. Ond sylwer ar un peth a bair syndod i ddarllenwyr ein hoes hi, am ein bod wedi ein cyflyru i gredu bod angen mynegiant newydd sbon ar bob cri a gwyd yn syth o'r galon: y ffaith annisgwyl amdani yw taw geiriau wedi eu codi o'r Beibl sydd gan y Golomen. Dyfynnu o Lyfr y Datguddiad y mae, gan adael i gyd-destun y dyfyniad awgrymu ymhellach mai aelodau o'r eglwys yn Laodicea yw Cristnogion honedig Cymry, ac eithrio'r rheini sydd wedi cael y profiad o dröedigaeth. Dyma'r adnodau a adleisir ganddi: Felly, am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'm genau. Oblegid dy fod yn dywedyd, 'Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim'. Ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth (3: 16, 17). Fe sylwir mai ymhelaethu'n gelfydd ar y frawddeg olaf honno a wna Morgan Llwyd, a hynny nid am ei fod yn brin o ddeunydd mynegiant gwreiddiol, ond am ei fod am ddangos nad yw ef ei hun yn ddim ond cyfrwng mynegiant gwylaidd i 'ysbryd y Goruchaf.' 'Ni feiddiaf i ddywedyd fy ngeiriau fy hunan, ond oddi wrth un, i ddangos y dwfn', meddai'r Golomen wrth yr Eryr. Cyfeirio at ddarn o'r Beibl y mae unwaith yn rhagor, ac adnodau o Efengyl Luc sydd ganddi mewn golwg y tro hwn: 'Ond pan ddêl efe, sef ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono ei hun, ond pa bethau bynnag a glywo a lefara efe, a'r pethau sydd i ddyfod a fynega efe i chwi. Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.' (16: 13, 14).