Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Williams Pantycelyn ar Beibl I'r rhan fwyaf o Gymry crefyddgar a llengar heddiw, y mae'r Beibl a gweithiau Williams yr un mor gyfarwydd neu anghyfarwydd â'i gilydd. Er y ceir ymwybyddiaeth ddofn o hyd am eu lle canolog yn y diwylliant a etifedda'r genhedlaeth bresennol, rhyw ymswilio yn eu cylch a wneir bellach, neu fynegi rhyw anwyldeb sentimental. I raddau helaeth, fe giliodd eu dylanwad ill dau, ac yn sgîl prinder y pregethu athrawiaethol a geir yn ein heglwysi, aeth gwybodaeth ddiwinyddol.a dysg feiblaidd y gynulleidfa ar drai. Yng nghwrs y ganrif hon, newidiodd gwerthfawrogiad cymdeithasegol-ddiwylliannol yr addolwr a'r darllenydd o'r Ysgrythur ac o Bantycelyn i'r fath raddau fel y bo angen esboniwr homiletig ar y naill a beirniad llenyddol ar y llall. Dibynnir ar waith y rheini heddiw i ffurfio rhyw fath o ddirnadaeth o berthynas Duw a dyn, ac o ddadansoddiad yr emynydd o'i brofiad ysbrydol trydanol. Un datblygiad neilltuol o bwysig mewn beirniadaeth dros y blynydd- oedd diwethaf yw'r sylw y mae'r beirniaid llenyddol seciwlar yn barod i dalu i'r Beibl fel campwaith llenyddol-ysbrydol. Hyd yn gymharol ddiweddar fe fu gormod o ddrwgdybiaeth rhwng y beirniaid seciwlar a'r beirniaid beiblaidd ynghylch dulliau hermeniwtig ei gilydd. Erbyn hyn, fodd bynnag, ceir beirniaid esboniadol yn cydnabod dilysrwydd dulliau seciwlar, a'r beirniaid llenyddol yn sylweddoli na ddeil iddynt esgeuluso'r ysgrythurau ddim rhagor. Canlyniad hyn o detente yw astudiaethau megis, The Great Code: The Bible And Literature, 1 Northrop Frye, a The Literary Guide To The Bible, 2 wedi'i golygu gan Robert Alter a Frank Kermode, i enwi ond dwy o'r pwysicaf. Enillodd Frye ei fri rhyngwladol fel beirniad llenyddol drwy gyfres o lyfrau uchelgeisiol a soffistigedig, ac er na cheir pawb yn gyffredinol i'w ganmol, rhaid i'r sawl sydd â daliadau beirniadol hollol groes iddo gydnabod ei fod ar ei waethaf yn ddiddorol, ac ar ei orau yn ddisglair o dreiddgar. Yn ei lyfr uchelgeisiol, The Great Çode,3 3 ymgollodd yn y dadansoddiad mytholegol o'r Beibl, gan ddefnyddio'r gair myth yn y fan hon i olygu'r hyn sydd yn adrodd am fodolaeth dyn a'i ymdrechion i bortreadu realiti bywyd. Aeth ati i ddosbarthu'r patrymau profiadol a geir yn y Beibl a dadansoddi ei gyfundrefnau rhethregol. Dadl Frye yw bod rhethreg y Beibl wedi'i begynu rhwng yr oraclaidd, yr awdurdodol a'r ailadroddus ar y naill law, a'r cyfarwydd a'r uniongyrchol ar y llaw arall.4 Oddi ar y Diwygiad Protestannaidd, fe fu'r sylweddoliad hwn un anymwybodol o bosib yn gymorth i lenorion Cristnogol ddefnyddio rhethreg y Beibl yn gatalydd effeithiol i ddiwygiad, ac i estyn dealltwriaeth feidrol y credinwyr. Nid diffyg gallu creadigol sy'n cyfrif am drwch y gyfeiriadaeth ysgrythurol yng ngweithiau'r ail ganrif ar bymtheg