Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 Y dyfyniad dechreuol: Y Prifathro Emeritws Pennar Davies mewn homili fer ar Sain Abertawe, Mehefin laf, 1988. 2 Carwriaeth corynnod: Herbert Wendt, The Sex Life ofthe Animals (cyf. o'r Almaeneg, Llundain, 1965), 161-8 ('Cannibal Wedding'). Cerddi CARWRIAETH I Mae'r byd yn llawn o ryfeddodau. Bu ynddo fyrdd o anifeiliaid a physgod cyn dyfod dyn erioed. Bu peth creulondeb a phoen, do, ond mae'r pwrpas mawr yn aros. II O blith y rhyfeddodau, gredaf fi, mae carwriaeth y corynnod, y pryfed wythgoes, yn gampwaith. Corren fawr nwydus yn aros am ei charwr bach yn disgwyl amdano, yn cyd-gyffwrdd nes dyfod acme derbyn yr had. Ni charodd neb fel hon a blas ei blys yn ddiderfyn nes yn y diwedd mae'n llyncu ei charwr yn gyfan ei fwyta a'i flasu hyd waelod perfedd. Dim ond ambell wryw bach buandroed sy'n llwyddo i ddianc rhag traflwnc hon. III Cafodd ein Mam Nefol, gredaf fi, dipyn o sbri wrth drefnu hyn fel rhan o'i phwrpas mawr. Yr hon sy'n preswylio yn y nefoedd a chwardd. Cofier, wrth gwrs: os marw yw'r carwr epilia ei had. NODION JOHN GWYN GRIFFITHS