Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfieithiad ‘O Thou who camest from Above' Charles Wesley Tydi a ddaethost oddi fry TYDI A DDAETHOST ODDI FRY I roi o'th bur nefolaidd dân, Ar allor wael fy nghalon i Enynna fflam o gariad glân! Gad iddi losgi er dy glod, Anniffoddadwy wenfflam glir; Gan ddychwel at ffynhonnell bod, Yn weddi daer a moliant gwir. Iesu, rho imi sêl di-nam I ddweud, a gweithio, ac i fyw; Gan ddiogelu'r sanctaidd fflam, A chyffroi ynof rodd fy Nuw. Yn barod am D'ewyllys gref Parhaf mewn ffydd a serch o hyd, Nes selia Angau ddoniau'r nef A chwblhau yr aberth ddrud. J. HENRY JONES Hydref, 1985