Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Ac fe fydd newyn Aeth rhagor na dwy flynedd heibio wedi i wledydd y gorllewin ddyfod wyneb yn wyneb â'r newyn mawr yn Ethiopia a'r gwledydd cyfagos. Ymddangosodd llawer o gyfeiriadau yn y wasg dros gyfnod o flynyddoedd i'n rhybuddio o'r hyn a allasai ddigwydd. Er hynny, y darluniau brawychus a fflachiodd ar ein setiau teledu yn portreadu'r dioddef a'r newyn eithriadol a ddaeth a'r sefyllfa yn fyw o flaen ein llygaid. Prociwyd cydwybod y gorllewin i'r byw a bu'r ymateb yn eithriadol. Nid oes amheuaeth na ddeffrowyd ymwybyddiaeth a chydymdeimlad trigolion y Deyrnas Unedig a llifodd cymorth o bob math mewn ffyrdd ymarferol a chanmoladwy. Daeth ysbryd altrwistaidd ein gwlad ar ei gorau i'r wyneb. Nid oes amheuaeth ddarfod i'r ymateb liniaru cryn dipyn ar gyflwr y gwledydd anffodus hyn, ond ymledodd y newyn i rannau eraill o Affrica, ac y mae'r dioddef a'r marwolaethau ymysg trigolion y rhannau hyn o'r cyfandir ar gynnydd. Daethpwyd i sylweddoli fwy a mwy nad ar chwarae bach y mae datrys y problemau gwaelodol a dyrys hyn. Dyma yn wir sy'n peri arswyd i ni drigolion gwledydd y gorllewin na phrofasom erioed ddim i'w gymharu â'r caledi dirdynnol, y dioddef eithafol a'r crwydro diobaith ymysg brodorion Ethiopia a rhannau helaeth o'r gwledydd cyfagos. Wedi dweud hynny, rhaid dwyn ar gof nad ydyw newyn yn brofiad newydd yn hanes Ethiopia a rhannau eraill o'r trofannau. Dengys astudiaethau hanesyddol fod y rhannau hyn o'r byd ac yn arbennig felly wledydd Affrica, wedi dioddef a phrofi llawer o gyfnodau maith o newyn difrifol dros y canrifoedd. Bu newyn eithriadol o galed yn y flwyddyn 1828 ac un arall ryw drigain mlynedd wedyn am gyfnod o bedair blynedd. Amcangyfrifir i'r newyn hwnnw ladd trydedd ran o boblogaeth Ethiopia ac fe'i dilynwyd yn ôl yr hanesion gan bla o locustiaid. Bu difrod eithriadol ac ymddengys fod rhan helaeth o dda byw cynhenid y wlad wedi eu diddymu'n llwyr gan afiechydon o ganlyniad i'r amgylchiadau hinsoddol. Ac nid cyfandir Affrica yn unig a dioddefodd. Dengys astudiaeth fanwl gan Masefield, un o arbenigwyr amlycaf amaethyddiaeth y trofannau, fod rhannau helaeth o'r gwledydd poeth wedi dioddef yn achlysurol am genedlaethau. Bellach nid oes amheuaeth ddarfod i'r sefyllfa waethygu'n ddirfawr wrth i boblogaethau'r gwledydd hyn a'u da byw gynyddu y tu draw i bob dirnadaeth dros gyfnod byr o amser. Ni chredaf ein bod eto wedi sylweddoli'n llawn nad un elfen arbennig sy'n gyfrifol am drychinebau y trydydd byd yn y blynyddoedd diwethaf. Datganwyd fwy nag unwaith mai'r prif os nad yr unig reswm dros y sefyllfa bresennol ydyw fod dynion dros gyfnodau hirion wedi rheibio a difrodi rhannau helaeth o diriogaethau y gwledydd anffodus hyn. Yr unig