Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Gaeleg Cyfoes Cyfrol o gyfieithiadau Cymraeg gan John Stoddart o gerddi wedi eu cyfansoddi yn yr iaith Aeleg yw hon.* Mae yma dipyn dros gant o gyfieithiadau celfydd os cyfrifir cerddi'r dilyniannau, a hefyd ragymadrodd o bymtheg tudalen ('Cipdrem ar ddatblygiad barddoniaeth Aeleg gyfoes') sydd yn cynnwys rhai cyfieithiadau ac yn dangos mor ddwfn yw diddordeb y cyfieithydd yn ei bwnc ac mor ffrwythlon y mae ei astudiaeth ohono wedi bod. Fe ellir dweud am bob llyfr, ond odid, mai'r awdur a'i sgrifennodd, a gafodd y budd mwyaf ohono, ac y mae'r llyfr hwn yn enghraifft dda. Fel y gwn, bu'r awdur yn gweithio arno ers blynyddoedd, ond cafodd wobr helaeth; cyfoethogwyd ei ddiwylliant a'i fywyd. Mawr obeithiaf y caiff y llyfr y derbyniad a haedda, oblegid fe all ledu gorwelion diwylliant ei ddarllenwyr a'i ddyfnhau. Fe garwn gredu fy mod yn cyfeiliorni, ond ofnaf ein bod ni fel Cymry'n bur anwybodus o hanes Sgotland. Bydd rhai ohonom yn ymddiddori yng nghenedlaetholdeb y wlad, yn enwedig adeg etholiad cyffredinol, ac yn yr ymdrech i ennill ymreolaeth, gan wrthgyferbynnu agwedd aelodau Sgotaidd y Blaid Lafur ati ag agwedd druenus aelodau Cymreig y Blaid Lafur at ymreolaeth i Gymru. Ond ychydig ohonom sydd wedi ymddiddori digon yn Sgotland i ddysgu ei hanes ac i ymgyfarwyddo yn ei phroblemau. Ni all hyn beidio â bod yn resyn. Dylai'r sawl sy'n ymddiddori yn nhynged y Gymraeg wybod rhyw gymaint am hanes yr Aeleg. Dylai ddarllen llyfrau megis Nancy C. Dorian, Language Death (U. Pennsylvania Press, Philadelphia, 1981) ac yn enwedig llyfrau fel V. E. Durkacz, The Decline of the Celtic Languages (Edinburgh, 1983). (Yn ôl cyfrifiad 1981, nifer poblogaeth Sgotland oedd 5,035,315; nifer y bobl a siaradai Aeleg a Saesneg oedd 82,620 ac y mae'n werth cadw'r nifer olaf hwn mewn cof wrth ystyried rhagoriaeth y farddoniaeth y mae'r llyfr hwn yn dystiolaeth iddi). Mae'r Sgotiaid yn ymffrostio yn nadeni eu llenyddiaeth yn yr ugeinfed ganrif, yn fwyaf arbennig yn nadeni eu llenyddiaeth Saesneg. Ymfalchïant yng nghynnyrch awduron fel J. M. Barrie (1860-1937), John Buchan (1875-1940), Edwin Muir (1887-1959), Compton Mackenzie (1883-1974), Eric Linklater (1899-1974), Neil M. Gunn (1891-1973). Fel llenorion Saesneg y byddwn ni'n meddwl am y rhain fel rheol, ac y mae'n dipyn o sioc deall mai fel eu llenorion hwy eu hunain y bydd y Sgotiaid yn meddwl amdanynt, er ei bod mor naturiol iddynt hwy wneud hynny ag i'r Americaniaid edrych ar Mark Twaine a Hemingway fel eu llenorion hwy. *CERDDI GAELEG CYFOES. Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan John Stoddart (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru ar ran yr Academi Gymreig, 1986).