Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau ar Hanes y Fersiynau Cymraeg o'r Testament Newydd, 1620-1975 (Rhan 2) Trown yn awr at y mwyaf uchelgeisiol, y mwyaf ysgolheigaidd gytbwys, a'r mwyaf llwyddiannus o'r holl fersiynau diwygiedig o'r Testament Newydd Cymraeg i ymddangos rhwng 1818 (blwyddyn Cyfammod Newydd John Jones) ac 1918 (diwedd y Rhyfel Byd cyntaf). Cyfeirio yr wyf, wrth gwrs, at bedair cyfrol y Parchedig Brifathro William Edwards, Llywydd Athrofa'r Bedyddwyr yng Nghaerdydd, a gyhoeddwyd yn 1894,' 1898,2 19133 a 19154. Y teitl ar wynebddalen pob un o'r pedair cyfrol yw: CyfieithiadNewydd o'r Testament Newydd, wedi ei wneuthur o'r Testyn mwyaf pur, yn ôl y beirniaid goreu, ac wedi ei gymharu yn ofalus a'r cyfieithiad Cymraeg arferedig. Ychwanegir y gwahanol ddarlleniadau ynghyd â'r prif awdur- dodau drostynt. Hefyd, nodiadau beirniadol ac esboniadol. (Yn y gyfrol gyntaf ychwanegir: Rhagflaenir yr oll gan ddeg o benodau rhagarweiniol.) Mewn adolygiad ar y gyfrol gyntaf yn Seren Gomer yn 1894 beirniadodd yr Athro Silas Morris o Goleg y Bedyddwyr, Bangor y dewis o deitl i'r gwaith: Gelwir y gwaith yn 'Gyfieithiad Newydd,' tra ar yr un pryd corfforir yr hen gyfieithiad Cymraeg yn yr un dull ag y gwnaed â'r un Saesneg yn y Diwygiad diweddar ohono. Felly Cyfieithiad Diwygiedig ydyw, ac nid Cyfieithiad Newydd. Cymeradwywn y cynllun o Gyfieithiad Diwygiedig, ond ei alw felly. Er bod peth sylwedd yn y feirniadaeth hon, nid oes unrhyw arwydd bod William Edwards yn ceisio twyllo neb wrth alw ei waith yn "Gyfieithiad Newydd." I'r gwrthwyneb, brawddeg agoriadol y "Gair at y Darllenydd" ar ddechrau'r gyfrol gyntaf yw: "Yn y Gyfrol hon yr wyf yn gwneud ymgais ostyngedig i roddi i'r Cymro deallgar Gyfieithiad Diwygiedig, ac hefyd gipdrem ar y pynciau pwysicaf a ddaliant gysylltiad â'r Testament Newydd."6 Yng ngoleuni'r frawddeg wylaidd hon, prin ei fod yn haeddu cerydd ei gyd-athro a'i gyd-Fedyddiwr o Fangor! Y mae'n amlwg mai ymddangosiad y RV Saesneg yn 1881 a symbylodd William Edwards i ymroi i'r gwaith llafurus hwn a oedd i gymryd dros ddeng mlynedd ar hugain i'w gwblhau. Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi, yn 1882, gyfrol 0 250 o dudalennau yn dwyn y teitl Ystyriaethau arDdiwygiad o'r Testament Cymraeg,1 sef ymhelaethiad o bapur yr oedd Undeb Bedyddwyr Cymru flwyddyn ynghynt wedi ei gomisiynu i'w baratoi a'i ddarllen yng nghyfarfodydd blynyddol yr Undeb yn 1881, blwyddyn