Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

David Friedrich Strauss Rhoddais gip ar fwy nag un gwyddoniadur i gael gweld rhywbeth dan yr enw Strauss, ond cefais fy siomi, fwy nag unwaith. Gwrthrych fy niddordeb oedd David Friedrich Strauss (1808-74) ond ymddengys na chlywodd nifer o'r doethion amdano. Caed cyfeiriadau niferus at Straussiaid o gerddorion. gan gynnwys meistri'r Waltz o Fienna, a'r cyfansoddwr mwy uchelgeisiol ac uchel-ael, Richard Strauss. Dim gair am David Friedrich. Ni ddylid synnu'n ormodol mewn oes seciwlaraidd fel hon nad yw'r Encyclopaedia Britannica, er enghraifft, yn cymryd sylw o'i fodolaeth, oblegid mae'r Strauss hwn yn perthyn i fyd diwinyddiaeLh ac astudiaethau Beiblaidd. Efallai mai'r arwyddocâd yw nad oes iddo le amlwg yn ymwybyddiaeth oes anghrediniol. Ond go brin fod hynny'n wir. D. F. Strauss oedd yr ymgnawdoliad perffaith o anghrediniaeth i lawer iawn o bobl yn ei oes ei hun. A gorfu iddo dalu'n ddrud am beidio â chydymffurfio. Yn wir, deffrowyd diddordeb ynddo fel dyn ac fel cyfrannwr i astudiaethau crefyddol, o'm rhan i, gan gyfres ddiweddar Don Cupitt ar y teledu, Sea of Faith. Rhaid imi ddweud i'r cyflwyniad gan y cyfaill anuniongred o Gaergrawnt brocio fy ymwybyddiaeth i'n bersonol, i'r graddau'r euthum ati'n awyddus i gael gweld beth yn hollol oedd achos helynt ei feirniadu mor hallt, a chan ofyn am natur parhaol ei gyfraniad os oes iddo barhad. Chwarae teg i Cupitt: gallai ddangos agweddau atyniadol, arwrol yn wir, ar y dynion od o feddylwyr disglair y soniodd amdanynt; pobl fel Nietzsch neu Wittgenstein. Fodd bynnag, mae pawb o'r awdurdodau y troais atynt yn unfryd unfarn ynghylch pwysigrwydd gwaith D. F. Strauss a'i ddylanwad chwyldroadol ar astudiaethau o'r Testament Newydd. I ddyfynnu yma ddau y mae gennyf y parch mwyaf iddynt am eu gwaith: Stephen Neill yn ei gyfrol, The Interpretation of the New Testament 1861-1961 (Oxford U.P.) mae'r flwyddyn hon (1835, blwyddyn cyhoeddi Bywyd Iesu Strauss) a'r llyfr hwn yn nodi, fel na fedrodd ond ychydig iawn o rai eraill, drobwynt yn hanes y grefydd Gristnogol." Dweud mawr gan esgob ac ysgolhaig! Ac yna'r diwinydd safonol a safadwy o'r Alban, Hugh Ross Mackintosh, "Mae David Friedrich Strauss heb unrhyw amheuaeth yn awdur o bwys arbennig: ni welwyd rhyddiaith fwy effeithiol yn yr Almaeneg na'r eiddo ef oddi ar Lessing Dynodwyd cyfnod mewn diwinyddiaeth (gan Bywyd Iesu) yn yr ystyr fod cenhedlaeth gyfan o ddiwinyddion yn gorfod cymryd ochr yn ei gylch." Ganwyd Strauss mewn He o'r enw Ludwigsburg, ac addysgwyd ef, yn ddiddorol iawn, gan F. C. Baur, un o'r beirniaid "eithafol" ar y Testament Newydd, ym mhrifysgol Tübingen. Lle nid anenwog am ei barodrwydd i