Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygíadau T. J. MORGAN a PRYS MORGAN, Welsh Surnames (University of Wales Press, tt.211) L25.00. Dyma'r astudiaeth sylweddol gyntaf o gyfenwau Cymraeg. Gwaetha'r modd, ni dderbyniwyd copi i'w adolygu gan y Traethodydd; ond y mae hyn yn gyhoeddiad sydd mor bwysig i'r iaith Gymraeg fel na ellid ei anwybyddu. Naturiol fyddai holi pam yr ymdrinnid â chyfenwau ar wahân i enwau personol yn gyffredinol, gan fod y naill ddosbarth yn cymhlethu'drwy'r llall, a'r rhan fwyaf o gyfenwau yn gysylltiedig rywfodd ag enwau personol per se. Eto, problem arbennig ydynt, ac iddynt eu hanes eu hun sydd o safbwynt hanesyddol a chymdeithasol yn fwy arwyddocaol na'r diddordeb ieithyddol bron yn bur a geir mewn enwau bedydd. Ar ôl rhagair, dyma enwau'r pum adran sy'n ffurfio'r rhagymadrodd disglair i'r gyfrol hon: 1. The Orthography of Welsh Surnames; 2. The Patronymic System; 3. Descriptive Surnames; 4. Place-Names as Surnames; 5. Hypocoristic Names.' Dilynir hyn gan golofnau dwbl mewn print mân darllenadwy sy'n dosbarthu cannoedd o gyfenwau Cymraeg yn ôl yr wyddor. Ni chawsom iawer o ymdriniaethau sylweddol ag unrhyw agwedd ar yr iaith Gymraeg yn ddiweddar. Yn ein hadrannau Cymraeg, at ei gilydd gwthiwyd yr iaith i'r ymylon gan hanes llenyddiaeth a darllen testunau, a hithau wedi bod ar yr orsedd gyhyd. Ond fe gaiff pob ysgolhaig Cymraeg a phob darllenydd diwylliedig (hyd yn oed y llenorion) fod yn y gyfrol hon oriau o ddarllen diddan. Deil ein hiaith yn faes cyffrous o hyd, a da gweld fod ambell ysgolhaig yn barod i gydio mewn astudiaethau sylweddol sy'n amgenach nag astudiaethau unigol ar eirfa ynysedig. Wrth arolygu maes cyfan fel hyn, daw amryw themâu cyffredinol go awgrymus i'r golwg. Megis er enghraifft arwyddocâd eithriadol y Gororau a De Penfro. Mewn ardaloedd ffiniol felly y cynaeafwyd cyfenwau gogleisiol a gadwai ryw ffurfiau ar Urien, Cadell, Gwin, Gwgan, Gwrgant, Gwythyr a Chynfyn. Gyda llaw, rwy'n sylwi fod Gwyer hefyd yn gyfenw ar y gororau: fe'i ceid yn enw'r ffyrm Faber & Gwyer a ragflaenai Faber & Faber, a dichon mai un o epil Gwair yw hwnnw. Ar lafar gwlad o hyd, enwau ffermydd a dadogir ar bobl yn y cyd-destun gwledig, er bod y Morganiaid yn dangos fel y mae troi'r arferiad yna'n gyfenw go iawn yn ddigwyddiad eithaf prin. Nid ffenomen wledig gyffredinol oedd tadogi enwau cartrefi ar enwau'u trigolion, hynny yw nid dyma'r dull di-eithriad, yn y parthau gwledig fel y cyfryw, o roi cynffon i enw bedydd. Ffenomen anhrefol ac amhentrefol ydoedd: fe'i cysylltid â ffermydd. Lle y ceid pentref gwledig, fe fyddai plant yr ardal a oedd yn byw ar y ffermydd yn dwyn enwau'u cartrefi; felly, Beti Crug-y-deri, Wyn Pen-pare, Eileen Ty-hen. Ond am y plant a oedd yn byw yn y pentrefi ei hun, er mai enwau fel Fron-deg dyweder fyddai ar y cartref, ni byddai neb yn meddwl galw Mari Morgan yn Mari Fron-deg. Mae'r dosbarthiad hwn yn drawiadol. O fewn cylch y pentref hefyd fel arfer, clywid enwau crefftau'n amlhau (megis Dan Masiwn, George y Crydd, Alff Saer), ond am wragedd y pentref, caent enwau bedydd eu gwyr, megis Annie Alwyn ac Annie Tref. Un o'r enwau cyntaf (a ddaeth yn gyfenw hefyd) y gellid ei darddu o enw lle oedd 'Myrddin' (sy'n dod o Moridunon, caer y môr). Mae Nikolai Tolstoy a John Rhys yn dadlau fod gwreiddyn yr enw lle hwn ac enw'r person yn wahanol, ond