Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bod y ddwy ffynhonnell wedi esgor ar yr un cynnyrch. Mae Phillimore yn tynnu sylw at ddau arall a gafodd eu henwau gan leoedd, sef Lleon Gawr o Gaerlleon ac Efrog o Gaerefrog. Beth bynnag, y mae'n hen arfer, ac yn ymwneud yn y dyfnderoedd â'r cyswllt treiddgar sydd rhwng dyn a'i wreiddiau. Yn wir, gan gryfed yw'r cyswllt hwn, er mor ddeniadol yw tarddu Kendal o'r enw personol, Cynddelw (a'r enghreifftiau a ddyfynnir mor argyhoeddiadol, 'ap Kendalo, ap Kendelon, Kendal ap David), tybed oni ddylid ychwanegu nodyn godre cyfredol a awgrymai y gallai mai enw'r lle wedi'r cwbl sydd mewn rhai o'r enghreifftiau modern a gafwyd? Mae'r Morganiaid wedi defnyddio dogfennau helaeth o'r oesoedd canol ac o'r cyfnod modern, ac wedi olrhain yn gynhyrfus o awgrymiadol lu o enwau i lawr drwy'r canrifoedd. 'Roedd yr astudiaeth wyddonol a hanesyddol o enwau lleoedd eisoes wedi hen ymsefydlu yng Nghymru, er bod cymaint o waith yn disgwyl o hyd am ei gyflawni. Dyma yn awr, mewn un gyfrol gyfareddol, ar un cam megis, sefydlu gwyddor enwau personol Cymraeg. Y sylfaen yna o ddogfennau cyhoeddus o lawer math yw'r hyn sy'n peri bod y gyfrol hon yn gam mor fras ymlaen, y cam bras cyntaf mewn gwirionedd, yn y maes. Casglwyd y defnyddiau sylfaenol dros gyfnod o flynyddoedd lawer, ac y mae'r Morganiaid — ar sail adnabyddiaeth fanwl o wlad a chymdeithas Cymru wedi gwau geiriadur hanesyddol eithriadol o ddawnus. Dyma fwynglawdd helaeth ar gyfer haneswyr cymdeithasol a phawb sy'n ymhoffi yn niwylliant Cymru. Roedd angen llafurwaith trwm ynghyd â dychymyg, gwaddol o ysgolheictod eang a deallus- rwydd treiddgar i gynnull cnwd mor gyfoethog. Er ein bod yn cael yr argraff mor aml mai cnewyllyn bychan bach o enwau bedydd seisnigaidd, megis John, William, Thomas, Robert ac yn y blaen, a'r rheini wedi'u tadogi ar y Cymry ar y pryd gan glercod a swyddogion, ydoedd bron unig sylfaen y cyfenwau a fabwysiadwyd yn yr adeg pryd y daeth yr arferiad i gadw cyfenw, dengys y gyfrol hardd hon fod y gwir yn lletach o lawer na hynny, a holl stori'r enwau sydd arnom ni yn hanes a hawliai'n sicr yr astudiaeth amlochrog a gafwyd gan y ddau ysgolhaig hyn. Dyma lenwi bwlch amlwg yn ein gwybodaeth genedlaethol, a hynny gydag arddeliad godidog. Aberystwyth R. M. JONES J. E. CAERWYN WILLIAMS (gol.), Ysgrifau Beirniadol, XIII (Gwasg Gee, 1985). Pris: £ 7.50. Gwych o syniad yw neilltuo ambell gyfrol yn y gyfres werthfawr hon i dalu teyrnged i lenor, beirniad neu ysgolhaig. Daethom yn gyfarwydd â'r cyfrolau teyrnged hynny sy'n trafod gwaith yr awdur y telir teyrnged iddo, ond Ysgrifau Beirniadol, ac ambell gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru, yn unig sy'n cynnal traddodiad y Festschrift lle y mae cydweithwyr yn cynnig ffrwyth eu hysgol- heictod yn deyrnged i gyfraniad un a berchir ganddynt. Mae'r Llyfryddiaeth o weithiau Dr. Rachel Bromwich a gynhwysir yn y gyfrol hon yn rhestr o erthyglau ac adolygiadau sydd, bob un yn ddieithriad, yn dystiolaeth i ysgolheictod o'r safon uchaf sydd wedi'i chynnal yn ddi-feth trwy gydol gyrfa nodedig. Ac wrth weld y maes yn ehangu'n gyson a'r ddysg yn ymganghennu ni allwn ond rhyfeddu at gyfraniad unigryw Dr. Bromwich i astudiaethau Celtaidd. Er hynny hanes llenyddiaeth Gymraeg sydd wedi denu'i bryd a chael o'i gorau. Da y dywed Dr. Marged Haycock yma nad 'gormodiaith yw dweud bod y gyfrol Trioedd Ynys Prydein yn un o weithiau ysgolheigaidd mwyaf cyffrous y ganrif hon', ac nid yr