Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRANWEN JARVIS, Goronwy Owen (Cyfres 'Writers of Wales' Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986, £ 3.50). HYWEL TEIFI EDWARDS, Ceiriog (Cyfres Llên y Llenor, Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 1987, £ 2.50). Dau fardd a gafodd wasg wael yn ddiweddar yw Goronwy Owen a Cheiriog. Dwy enghraifft dda ydynt o'r modd y gall beirniadaeth lenyddol heddiw fod yn gwbl unllygeidiog. Craidd gwendid y feirniaeth gamarweiniol hon yw'r ysfa i drafod gwaith llenorion oesoedd eraill fel petaent yn gyfoeswyr. Hynny yw, os nad yw gwaith y rhain yn cynnwys 'rhinweddau' llenyddiaeth gyfoes rhaid eu collfarnu. Y mae'n ofynnol, wrth gwrs, gydnabod pwysigrwydd cyfraniad beirniadaeth ddiweddar yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Diamau fod angen hoelio sylw ar y testun i finiocáu ein gwerthfawrogiad ohono; dyna a wnaeth y Beirniaid Newydd gynt a hynny'n fuddiol iawn. Ond wrth gyflawni'r gwaith pwysig hwn gall y Beirniad Newydd (sydd erbyn heddiw braidd yn hen-ffasiwn) fynd dros ben llestri a syrthio i heresi, yr heresi o gyflwyno darn 0 lenyddiaeth fel creadigaeth ddi-amser nad yw'n ddim ond casgliad o'r nodweddion llenyddol hynny sy'n cael sylw ac yn derbyn ffafr y beirniad 'modern'. A rhoi'r peth mewn ffordd arall, anwybyddir y gwirionedd amlwg fod sail ddynol a chymdeithasol i lenyddiaeth. Adlewyrcha llenyddiaeth sefyllfaoedd dynol a chymdeithasol; adlewyrchu meddwl dyn mewn cyd-destun hanesyddol y mae a ffolineb yw anwybyddu'r gwirionedd holl-bwysig hwn. Cam dybryd â natur llenyddiaeth, felly, yw troi trwyn ar unrhyw ymdriniaeth sy'n sawru o'r elfen hanesyddol yn yr awydd i dynnu llinell derfyn rhwng beirniadaeth lenyddol a hanes llenyddiaeth. Y mae'n gwbl angenrheidiol deall amcanion llenor cyn cymhwyso dulliau beirniadaeth lenyddol ddiweddar at ei waith. Yn wir, fe ddywedwn i fod beirniadaeth gynhwysfawr, ystyrlon, yn amhosibl heb y ddealltwriaeth hon. Braf yw dweud bod y ddwy ymdriniaeth hyn yn llwyddo i osgoi eithafion yr heresi a amlinellir gennyf. Dyry Branwen Jarvis gryn lawer o sylw i hanes bywyd Goronwy Owen a phersonoliaeth y dyn. Mae hynny'n briodol iawn, yn y lle cyntaf, oherwydd trafodaeth Saesneg ar gyfer darllenwyr di-Gymraeg yn bennaf sydd yma. Ond yn bwysicach na hynny dangosir bod y cyd-destun personol a dynol hwn yn taflu goleuni ar gynnyrch y bardd ac yn ein galluogi i glywed llais y dyn ei hun yn well. Daw hyn â ni ar unwaith at ystyriaeth arall. Bardd newydd-glasurol, Cristionogol, oedd Goronwy Owen ac y mae'r ymateb ystrydebol i newydd- glasuriaeth yn tueddu i ddibrisio'r wedd bersonol. Haerodd F. R. Leavis fod pob bachgen ysgol yn mynd i'r coleg wedi'i argyhoeddi nad bardd mo Alexander Pope. Dywed Branwen Jarvis mai '[a] rather puzzled disappointment' yw'r ymateb arferol i farddoniaeth Goronwy ac mai un rheswm am hynny yw'r 'frequently-aired antipathy' i farddoniaeth y ddeunawfed ganrif. Heb ddeall y cyd-destun llenyddol, y gyfundrefn newydd-glasurol, prin fod modd dechrau gwneud cyfiawnder â chynnyrch y bardd, ac y mae'r wedd hon yn rhan annatod o'r drafodaeth werthfawr ar y cerddi, er y buaswn wedi croesawu mwy o drafod ar uchelgais arwrol Goronwy. Trwy gydol yr ymdriniaeth â chywyddau Goronwy y mae synnwyr cyd-destunol a beirniadol Branwen Jarvis yn cyfuno i gynhyrchu beirniadaeth olau, fel yn y sylwadau ar 'Gywydd y Gem neu'r Maen Gwerthfawr' a 'Chywydd Dydd y Farn'. Llefarydd dros eraill yw'r bardd newydd-glasurol nid gweledydd yn ymroi i fynegi ei brofiadau a'i weledigaethau anghymdeithasol ac unigolyddol ei hun. Ni byddai Goronwy Owen wedi deall y cyhuddiad ei fod yn ddi-ddychymyg. Nid