Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyfodol ein gorffennol Mae 1991 yn flwyddyn hanesyddol yng Nghymru yng ngwir ystyr y gair. Yn yr hydref bydd ysgolion ledled Cymru yn cychwyn ar faes llafur newydd: disgwylir iddynt i gyd ddysgu hanes fel pwnc yn ôl y canllawiau a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar sail argymhellion y Pwyllgor Hanes dros Gymru. Beth, meddech, sy'n arbennig yn hyn? Oni ddysgwyd hanes fel pwnc am genedlaethau yn ein hysgolion? Wel, mae o leiaf dair nodwedd newydd ynglyn â'r hyn a fydd yn digwydd o Hydref 1991 ymlaen. Yn gyntaf, disgwylir i bob plentyn rhwng 5 a 14 (a rhai hyd 16) astudio hanes fel pwnc gorfodol yn y cwricwlwm. Bydd hyn yn newid sylweddol, oherwydd ar hyn o bryd bratiog iawn yw'r ymdrech i ddysgu hanes mewn llawer o'n hysgolion cynradd. Yn ail, penderfynwyd, yn fras ac o fewn terfynau digon llac, beth fydd cynnwys yr hanes a ddysgir. Golyga hyn y bydd llawer mwy yn gyffredin yn yr hyn a ddysgir yn ein hysgolion, y bydd cyfle i baratoi adnoddau ar y cyd, ac y bydd cynllunio bwriadus rhwng yr hyn a ddysgir yn yr ysgolion cynradd a'r ysgolion uwchradd. Yn drydydd, mae gan Gymru ei sylabws Hanes ei hun. Dyma'r unig bwnc, ar wahân i'r Gymraeg, lle y dyfeisiwyd sylabws penodol Gymreig ar gyfer pwnc ysgol o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r sylabws hwnnw yn rhoi lle canolog i hanes Cymru. Trwy hynny dylai pob plentyn ddod i wybod am rai o brif nodweddion hanes Cymru. Pa ffordd well sydd, yn arbennig i'r Cymry di- Gymraeg, o adnabod ac ymglywed â'u Cymreictod? Mae gwlad heb hanes yn arbennig gwlad sydd yn prysur golli ei hiaith ac sy'n brin o'r sefydliadau eraill sy'n cynnal ei hunaniaeth — yn wynebu difodiant fel cenedl a phobl. Un o'n gobeithion prin i ddal gafael yn ein hunaniaeth fel pobl yw trwy drwytho ein plant yn hanes eu gwlad. Dyma pam y bydd 1991, o bosib, yn flwyddyn hanesyddol yn hanes addysg yng Nghymru. Ni chafodd y Pwyllgor Hanes dros Gymru a'i ddau adroddiad