Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Addysg Rydd neu Aìlwaddolir hen 'Estronesl Cymru a Deddf Addysg 1891 Ganrif yn ôl, wrth gloriannu arwyddocâd y flwyddyn 1891, rhoddwyd cryn sylw i bwysigrwydd Deddf y Degwm. Ond yn ogystal, syl- weddolwyd fod newidiadau addysgol pwysig wedi digwydd yng Nghymru. Dyma'r flwyddyn yr apwyntiwyd T. Charles Edwards i olynu ei dad Lewis Edwards fel prifathro Coleg y Bala. Yn Aberystwyth fe'i dilynwyd fel prifathro'r coleg gan T. Francis Roberts. Yn ogystal, roedd cryn brysurdeb ar hyd a lled y wlad gyda phwyllgorau lleol a sirol yn paratoi cynlluniau yn sgîl Deddf Addysg Ganolraddol Cymru 1889. Hefyd, bu cynhadledd ddylanwadol yn Amwythig i hybu'r ymgyrch dros brifysgol i Gymru. Yn ystod yr haf 1891 cafodd addysg fwy o sylw nag arfer pan benderfynodd y Llywodraeth Geidwadol ddwyn mesur gerbron y Senedd er sefydlu Addysg Rydd yn ysgolion elfennol Cymru a Lloegr. Fel canlyniad, cysylltwyd y flwyddyn hon â cham ymlaen pwysig yn hanes addysg yn y ddwy wlad. Ganrif yn ddiweddarach haedda Mesur Addysg 1891 sylw fel trobwynt pwysig yn hanes addysg y ddwy wlad, ond yn ogystal, mae'r dadleuon a wyntyllwyd ar y pryd yn ffynhonnell werthfawr a anwybyddwyd gan haneswyr, er eu bod yn adlewyrchu meddylfryd Cymru Anghydffurfiol Oes Fictoria. Ar ddechrau'r flwyddyn 1891 rhagwelwyd yn y Wasg Ang- hydffurfiol mai mesur i sefydlu Addysg Rydd fyddai un o'r materion pwysicaf o flaen y Senedd. Meddai Thomas Gee: Hwyrach mai maes brwydr benaf y senedd dymor fydd Addysg Rydd. Ymddengys fod ym mryd y Llywodraeth er pob peth a ddywedir i'r gwrthwyneb i ddwyn mesur i mewn. Conglfaen y mesur fydd arian y trethdalwyr tuag at gynnal ysgolion dyddiol Eglwysig a gamenwir yn rhai 'cenedlaethol' Yn erbyn hyn bydd holl nerth y blaid Ryddfrydig yn erbyn gwaddoliad newydd digwilydd a diegwyddor.