Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. H. Tawney a'r Traddodiad Radicalaidd: Gwleidyddiaeth ac Addysg Nid R. H. Tawney oedd sefydlydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ond 'does dim amheuaeth nad ei ddylanwad ef fu fwyaf ffurfiannol ar ddatblygiad y mudiad yn ystod ei flynyddoedd mawr wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, a gellir dweud am yr hyn sy'n greadigol ac adeiladol ym mywyd C.A.G. heddiw, ei fod yn gwbl ddyledus i ysbrydoliaeth Tawney. Mae ei ddylanwad hefyd yn ganolog i dwf a ffurf sosialaeth ym Mhrydain, a honno, mi feiddiaf ddweud, sy'n gyfrifol am yr elfennau iach sydd yn ein cymdeithas ar hyn o bryd. Yr hyn yr hoffwn i ei wneud yn yr ysgrif hon yw dangos y cysylltiad sydd rhwng ei waith addysgol ef ar gyfer C.A.G. a'i weledigaeth am gymdeithas sosialaidd, gyfiawn, decach. Mae fy nheitl 'Y Traddodiad Radicalaidd' yn cyfeirio at yr union gysylltiad hwnnw, y berthynas rhwng addysg ac urddas yr unigolyn, a rhwng democratiaeth a'r syniad o gyfiawnder cymdeithasol, a fu bob amser yn sylfaen i feddylfryd ac arfer sosialaidd. Ynghlwm yn y traddodiad, mae ymrwymiad i resymoliaeth, h.y., y gred fod i fywyd cymdeithasol batrwm, rheoleidd-dra, a deddfau y mae gan ddynion y gallu i'w darganfod. Nid cred ddogmatig mo hon fod patrymau o'r fath rywsut yn bod yn barod, a'u bod yno i ddod o hyd iddynt drwy ddamcanu a metaffisegu'n unig. Mae'n gred sy'n corffori optimist- iaeth y 'Gymdeithas Dda', wedi'i threfnu'n rhesymegol, lle mae gwyr a gwragedd yn rhydd o effeithiau amhersonoli a dad-ddynoli cystadleuaeth y farchnad gyfalafol; ond mae hefyd yn gwrthod corfforaeth, sef yr athrawiaeth fod buddiannau a hawliau'r unigolyn yn israddol i rai'r wladwriaeth. Ei thrydedd nodwedd yw ei bod yn gweld y dylid dwyn i ben y cyfnewidiadau cymdeithasol angen- rheidiol trwy ddulliau democrataidd, nid trwy ddulliau seiliedig ar yr egwyddor fod dibenion yn cyfreithloni moddion, fod dibenion da'n cyfreithloni moddion gorthrechol. Lle bo democratiaeth yn methu fel dull o ddiwygio cymdeithas neu lle y mae hi'n adweithiol, yn ddrwg ei