Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cydnabod yr Abertawe Gymraeg Efallai mai cyfuniad o'm brogarwch a'm gwladgarwch sy'n peri imi wingo wrth ddarllen rhannau o rai o'r llyfrau niferus a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Abertawe. Mae'n debyg y dylwn, fel brodor o Abertawe, ac fel un a wnaeth benderfyniad ymwybodol ar sail teimlad yn hytrach na rheswm i ddewis dilaswellt lawr y dref, ymfalchio yn ymddangosiad y llyfrau swmpus hyn, er mai rhai Saesneg ydynt. Buan serch hynny y gwelir fod dehongliad y llyfrau hyn o dreftadaeth lenyddol Gymraeg Abertawe yn resynus o annigonol. Ni honnir rhoi lle teilwng iddi yn The City of Swansea, Challenges ir Change, gol. Ralph A. Griffiths. Mewn trafodaeth gan James A. Davies ar lên a drama Abertawe rhoddir 22 llinell i lenorion Cymraeg, a derbynnir ein 'famous hymn and rugby anthem' ('Calon Lân') yn un o uchafbwyntiau llenyddol Cymraeg ein dinas. Mewn pennod arall sarheir ymdrechion diweddar cenedlaetholwyr y ddinas gan y Prifathro Kenneth O. Morgan. Dywed mai is-etholiad 1963 yn Nwyrain Abertawe oedd uchafbwynt hanes Plaid Cymru yn y ddinas, pan gafodd y Blaid ryw 5% o'r pleidleisiau. Tipyn o isafbwynt oedd yr etholiad hwnnw mewn gwirionedd. Cafodd Chris Rees, un o brif adferwyr ein hiaith, a brodor o Abertawe, dros 10% yn 1959. Yn 1970, pan oedd Roderick Evans, C.F., yn ymgeisydd a minnau'n dipyn o gynrychiolydd, cafwyd canlyniad tebyg ac eto yn 1974, pan oedd John Ball yn ymgeisydd. Â'r Prifathro yn ei flaen i ddilorni defnydd Coleg Prifysgol Abertawe o'r iaith Gymraeg, a gwawdio'r gair 'Acwariwm' a welodd yno ('bilingual notices such as 'Acwariwm'). Beth yn union yw ei bwynt? Ai bod y gair yma yn ddwyieithog ynddo'i hun, yn gyfuniad o Ladin a Chymraeg neu a yw'n well ganddo weld tarddiad Lladin mewn gair Saesneg? A yw dyn yn dod o hyd i ragfarn wrth-Gymreig ac wrth-Gymraeg yn y llyfrau hyn, felly? Y mae'n drueni na chafwyd erthygl ar lenyddiaeth