Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mwyaf alaethus eu cyflwr o bawb'. 'Roedd awdurdodau'r dref yn caniatáu i'r rhain 'arddangos eu hunain yng ngeneuau yr heolydd er mwyn hudo yr anwybodus i'w gafael. Ac yn y blynyddoedd hynny anawdd iawn oedd tramwy yr Heol Fawr heb ddyfod i gyffyrddiad â phobl y courts. Parai eu gweled yn unig i'r pur ei foes wrido ac i gywilyddio' (E.A.A., 46). Cafodd yr adeiladau hyn eu chwalu yn 1874 ar gost o [250,000. Mae deunydd nofel gyflawn yma, o ran cefndir: cymdeithas Gymraeg yn dechrau troi'n Saesneg; crefydd ac anfoesoldeb yn cyd- gwrdd; gwrthdaro rhwng gweithwyr a meistri yn y gweithfeydd copor a gweithdai gwehyddion; diwylliant y capeli a'r eisteddfodau ar y naill law a hap-chwarae a phuteindra ac ymladd ar y llall, heb anghofio'r diaconiaid meddw. Dyma ddeunydd crai Abertawe heddiw. Gall hanesydd ddadansoddi'r deunydd, ond mae angen nofelydd i roi anadl iddo, ac i sicrhau bod cymdeithas Gymraeg yr hen ddiwydiannau'n rhan o'n hetifeddiaeth lenyddol. HEINI GRUFFUDD Adran Addysg Barhaus, Coleg y Brifysgol, Abertawe Nodiadau Deunydd a grybwyllir: Ralph A. Griffiths (gol.), The City of Swansea, Challenges ir Change, Stroud, 1990. Glanmor Williams (gol.), Swansea An Illustrated History, Abertawe, 1990. Alan Llwyd, Barddoniaeth y Chwedegau, Barddas, 1986. Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd (gol.), Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, Llandysul, 1987. O. M. Edwards, Yn y Wlad, Wrecsam, 1921. Beth Thomas a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg, Caerdydd, 1989. Raymond Williams, Writing in Society, Llundain, 1985(?). J. J. Williams, Straeon y Gilfach Ddu, Aberystwyth, 1931. T. Mardy Rees, Ystoriau Difyr, Wrecsam, 1909. T. Mardy Rees, Difyrwch Gwyr Morgannwg, Caernarfon, ar ôl 1914. T. Mardy Rees, Y Lili Fach Wen, Caernarfon, 1903. W. Rowland Jones, 'Dyngarwch a'r Beirdd Cymreig', Y Geninen, XXIX, 1911, t.133-137. T. E. Nicholas, Salmau'r Werin, Wrecsam, 1909. Gwyrosydd, Caneuon Gwyrosydd, 1885. Gwyrosydd, Caniadau Gwyrosydd, Cwmafon, d.d. John Williams, Eglwysi Annibynnol Abertawe a'r cylch, 1860-1915, Swyddfa'r Tyst, 1915. John Williams, Eglwys Gynulleidfaol Ebenezer, Abertawe: Ei Hanes a'i Gwaith 1804-1922, Caerdydd, 1922. John Williams, Ddoe a Heddiw, Abertawe, d.d.