Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E. HAUGEN, J. D. McCLURE, D. S. THOMSON (eds.), Minority Languages Today, Edinburgh University Press, tt.250, £ 14.95. Un o ganlyniadau ymddiddori'n ddeallol yn helynt yr iaith Gymraeg y dyddiau hyn yw'r rheidrwydd i'w hystyried mewn cyd-destun rhyn- gwladol. Maecymharuacarchwilio cyflyrau ac ymdrechion cyfredol mewn gwledydd Ewropeaidd eraill yn cyfoethogi'r ymwybod o natur y maes. Gall hefyd awgrymu dulliau ymarferol o weithredu. Cynnyrch un o'r cynadleddau cydwladol pwysicaf yn y cyfnod diweddar yn y maes hwn yw'r gyfrol hon. Mae'n cynnwys dau ar hugain o bapurau gan ysgolheigion cyd- nabyddedig ym myd ieithoedd lleiafrifol. Cynrychiolir Cymru gan Bedwyr Lewis Jones sydd mor eglur a grymus ag arfer yn 'Welsh: Liguistic Conservatism and Shift- ing Bilingualism', ynghyd ag arolwg trwyadl gan John E. Ambrose a Colin H. Williams 'On the Spatial Definition of Minority: Scales as an Influence on the Sociolinguistic Analysis of Welsh'. Cyflwynir y rhain mewn cyd-destun lle y mae cyflwr Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg, Ffrisieg, Sami (iaith y Lapiaid), Ffaröeg yn ogystal ag ieithoedd eraill yn cael eu trafod gyda chryn weledigaeth. Heblaw'r Y TRAETHODYDD · Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith difyrrwch, yr ydych o'i phlaid fel iaith deallusrwydd. · Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith ysgolion, yr ydych o'i phlaid fel iaith addysg. · Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith y capel, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwinyddiaeth. · Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith ffurflen a llên, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwylliant. Ac yr ydych o blaid cadw'r TRAETHODYDD, yr unig gylchgrawn chwarterol sy'n darparu ar gyfer diwylliant cyffredinol y Cymro Cymraeg. Tanysgrifiad blwyddyn ymlaen Haw: £ 6.00 (gan gynnwys cludiad). GWASG PANTYCELYN, LÔN DDEWI, CAERNARFON Adolygiad ddau bapur gan Gymry, dyma rai o'r papurau a'm hysgogodd i'n gryf iawn: David Greene, 'The Atlantic Group: Neo-Celtic and Faroese'; Derick Thomson, 'Gaelic in Scotland: Assessment and Prog- nosis'; Einar Haugen, 'Language Fragmentation in Scandinavia: Revolt of the Minorities'; Desmond Fennell, 'Can a Shrinking Lin- guistic Minority be Saved? Lessons from the Irish Experience'; A. I. Keskitalo, 'The Status of the Sami Language'; A. Feitsma, 'Why and how do the Frisian Language and Identity Continue?'; and F. Hoffman 'Triglossia in Luxem- burg'. At ei gilydd, tuedda'r darlithwyr bob un, fel y gellid ei ddisgwyl, i ddilyn ei drywydd ei hun, ac o'r herwydd ceir cryn ryddid a chyfoeth o awgrymiadau ar amryfal agwedd- au ar y maes. Dichon fod angen bellach inni gael mwy o gydsymud ffurfiol a phenodol, a chynhadledd lle y bydd y patrwm disgrifiol yn cael cytundeb bras arno ymlaen llaw, ynghyd â phenderfyniad i ymdrin yn benodol â'r ddau gyf- eiriad presennol y mae angen ymarferol taer am eu crisialu, sef moddion adeiladu ewyllys i oroesi ynghyd â'r adeileddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol i weithredu'r cyfryw ewyllys. R. M. JONES CYLCHGRAWN CHWARTEROL Bargen am £ 1.50 y rhifyn + cost cludiad.