Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Hen gynefin Joshua Thomas, awdur 'Hanes y Bedyddwyr') Cerddi YN LLANLLIENI Rhyfeddaf yn ddiddiwedd at lwyd briordy'r dref â'i bymtheg canrif didor o gynnal golau'r Nef. Rhyfeddaf at dafodiaith ei gwladwyr mwyn eu gair, at ambell siop ddi-symud a'r bwrlwm ddiwrnod ffair. Rhyfeddaf at ei pharciau a'r blodau'n genlli gwâr ac at Dy Cwrdd Morafaidd mor dalog ar y sgwâr. Ond y rhyfeddod mwyaf ar ddydd o grwydro'n ffri ar hyd ei strydoedd carreg yw hyn, i'm meddwl i, i'r llanc o Esgair Ithri fod yma 'slawer dydd a'r heniaith yn troi'r Hanes yn rhamant cewri'r Ffydd. JOHN EDWARD WILLIAMS