Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BEDDAU Piau'r beddau, gryno lu, dan gen yn Aberhonddu? Cynheiliaid dysg oes a fu. Dewi Môn dan yr oerwlith ond daw, er beddfaen, i'n plith â'i gân i ddiwel bendith. Tomos y tad brifathro. Gwae ni roi'i fonedd i'r gro: braff Hebrëwr; ganwr solo. Miall o gyrraedd absen, a'i antur yntau ar ben dan dawel gysgod ywen. John yr hirhoedlog fan draw. I Hanes y mae'n ddifraw; rhodd o lyfr ni cheir o'i law. Joseff, addysgwr gwelog. Ni ddaw er neb dros ael clog â'i nawdd i blant Brycheiniog. Caewyd athrofa hyglod ac yn y twr gwynt y rhod sy'n ubain ei Ichabod. JOHN EDWARD WILLIAMS RHAI TROSIADAU O GANU T. S. ELIOT Mae hi'n anodd i'r rhai na wybu erledigaeth Ac na welodd Gristion erioed Gredu'r holl straeon am erlid Cristnogion. Mae hi'n anodd i'r rhai sy'n byw gerllaw Banc Amau sicrwydd a gwerth eu harian. Ac nid hawdd i gymdogion Gorsaf Heddlu Yw credu ym muddugoliaeth anwariaid. A dybiwch-chi fod y Ffydd wedi goresgyn y Byd Ac nad oes rhaid mwyach wrth geidwaid ar lewod? A raid dweud wrthych y dichon a fu fod eto? A dweud nad yw'r tipyn llwyddiant a gawsoch Wrth lunio cymdeithas waraidd, boleit, Yn debyg o oroesi'r Ffydd a roes iddi ystyr? Wýr1 glanhewch eich dannedd wrth fynd i gysgu a chodi, Ferched! llathrwch eich ewinedd: