Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Rych-chi'n gloywi cilddant y ci a chrafanc y gath. Pam y dylai dynion garu'r Eglwys? Caru ei deddfau? Sôn y mae hi am Fywyd ac Angau a'r pethau y carent eu hebargofi. Mae hi'n dyner lle mynnant hwy fod yn galed Ac yn galed lle carent hwy fod yn feddal, Mae hi'n sôn wrthynt beunydd am Bechod a Drwg a ffeithiau annifyr tebyg. Maent hwy'n wastad yn ceisio dianc O'r tywyllwch tu allan a thu mewn Trwy freuddwydio am systemau mor wych fel na bo rhaid i neb fod yn dda. Ond bydd y dyn sydd ohoni yn dilyn Y dyn sydd yn ffugio ei fod. Ac nid unwaith am byth y croeshoeliwyd Mab y Dyn, a darfod. Nid unwaith am byth yr aberthwyd y Saint, a darfod. Nid unwaith am byth y bu gwaed Merthyri, a darfod. Ond fe groeshoelir Mab y Dyn yn wastad A bydd Saint a Merthyri yn wastad. Ac os yw gwaed y Merthyri i lifo ar y grisiau Rhaid inni yn gyntaf godi y grisiau, Ac os yw'r Deml fyth i'w dymchwel Rhaid inni yn gyntaf godi'r Deml. (Allan o 'Choruses from the Rock') MEWN EGLWYS Pe deuech ffordd hyn, Hyd unrhyw ffordd bynnag, cychwyn o rywle, Unrhyw adeg neu dymor o'r flwyddyn, Byddai'n wastad 'run fath; byddai'n rhaid ichwi Osod o'r neilltu bob syniad a synnwyr. Canys nid dod yma I'ch hyfforddi eich hun, i borthi chwilfrydedd Neu i lunio adroddiad a wnewch. 'Rydych yma i benlinio Lle bu gweddi yn effeithiol. Ac mae gweddi'n beth mwy Na saernïaeth geiriau neu waith ymwybodol Y meddwl sy'n gweddio, neu swn llais y gweddïwr. A'r hyn na allai'r marw ei draethu, â hwy'n fyw, A allant yn awr â hwy'n farw; mae cenadwri Y marw wedi ei thafodi â thân tuhwnt i iaith y byw. Yma, man croesi y foment ddi-amser Yw Cymru ac unman. Byth ac yn wastad. (O 'Little Gidding'. 'England' sydd yn llinell olaf y gwreiddiol)