Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bywyd llawn cymwynaswr cenedl Pan glywais fod Mr. Emlyn Evans, Rheolwr Gwasg Gee, wedi ysgrifennu llyfr yn cynnwys dros saith cant o dudalennau, rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi ysgwyd fy mhen yn betrus, a phan ddeellais fod llawer o'r llyfr yn adargraffiadau o'i lithoedd golygyddol, a.y.b., ni pheidiodd y petrustod, ond ar ôl darllen y llyfr, rhaid i mi gydnabod nad oedd angen o gwbl i mi fod mor amheus.* Mae'r rhan gyntaf, yr Adran Huangofiannol, ar ei phen ei hun yn werth mwy na chost y llyfr ( £ 12.50), ac y mae'r ail ran neu'n hytrach rannau II-VII, storïau, erthyglau, cerddi, a.y.b., lawer ohonynt yn llenwi bylchau yn y gyntaf; maent yn dangos fod yr awdur yn fwy dawnus nag y rhoddir ar ddeall i ni yn y rhan gyntaf, yn ehangach ei ddiddordebau ac yn ddyfnach ei frwdfrydeddau, a hefyd yn fwy o unigolyn gydag ambell frycheuyn yn ei lygad, er ei bod yn syndod cyn lleied yw nifer y rheini. I mi y mae ei eangfrydedd, ei frwdfrydedd a'i haelfrydedd yn ennyn edmygedd ac nid ychydig o genfigen. Cymerwch y paragraff a ganlyn o 'Rwsia: Tair Siwrnai a lywiodd ei hanes'. Am ddiwrnod ym mis Rhagfyr 1952 y mae'n sôn. Derbyniaswn docyn llyfr yn anrheg ben-blwydd ddechrau'r mis gan fy nhad- a'm mam-yng-nghyfraith, a phenderfynais ei gyfnewid yn y gangen leol o gwmni hyglod W. H. Smith a'i Fab am ryw lyfr neu'i gilydd ar gyfer gwyliau'r Nadolig. Deuthum o'r siop gyda dwy gyfrol drwchus: A History of Europe, Cyfrolau I a II, gan H. A. L. Fisher, un o haneswyr blaenaf Lloegr yn y ganrif hon, gwr a fu'n Llywydd y Bwrdd Addysg yn llywodraeth glymblaid Lloyd George o 1919 hyd 1922. Gwelais yn gyflym iawn — o fewn ychydig ddyddiau, yn wir fod prynu'r gwaith syfrdanol hwn am brofi'n garreg filltir nodedig yn fy mywyd i. Geiriau ystrydebol, ie, ond ffaith. Gyda phob tudalen bron a Emlyn Evans, O'r Niwl a'r Anialwch (Gwasg Gee, 1991) tt.722.