Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ac ychwanega: Yr wyf yn ystyried heddiw, yn 1983, fod y geiriau yna wedi dylanwadu mwy ar fy mywyd i nag odid unrhyw eiriau eraill, a hynny byth er pan ddarllenais hwy dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae'n amlwg fod Mr. Evans wedi sylweddoli gwirionedd geiriau Eliot gydag angerdd gwr yr oedd yr iaith Gymraeg yn hanfodol i'w enaid a'i ysbryd byth er dyddiau ei blentyndod ym Methesda. 'Ar ôl meddwl ac ystyried cryn dipyn', penderfynodd anfon llythyr at Olygydd Y Ddinas, cylchgrawn misol Cymry Llundain, ac fe dâl i ni ddarllen dau baragraff o'r llythyr tyngedfennol hwnnw. Efallai nad yw'n hysbys i rai miloedd o Gymry'r ddinas hon fod cwestiwn cyhoeddi llyfrau yn un o bynciau pwysicaf y dydd yng Nghymru. Gan nad yw pobl yn prynu llyfrau Cymraeg, dirywiodd y sefyllfa i'r fath raddau, a chrëwyd y fath bosibilrwydd (anhygoel fel ag ydyw), na bydd llyfrau Cymraeg yn cael eu hargraffu o gwbl ymhen ychydig o flynyddoedd Meddylier yr effaith pe gallai ond cant ohonom ni, Gymry Llundain, (a ninnau'n gan mil, medd rhywun) addunedu i brynu un llyfr Cymraeg bob tri mis. Efallai y byddai'r draul yn bum neu chwe swllt y chwarter. I'r hwn a ystyrio hyn yn drwm, purion fai gofyn ai dyna werth ein treftadaeth? A adawn ni i'n hiaith, a aned bymtheg cant o flynyddoedd yn ôl, drengi am ein bod yn rhy grintachlyd i wario punt y flwyddyn i'w chynnal a'i hyrwyddo? Yn awr, ni allaf i beidio ag edrych ar ysgrifennu'r llythyr hwn fel gweithred dyngedfennol, gweithred nad oedd ond bychan ynddi hi ei hun ond gweithred a esgorodd ar bethau mawrion, ac i mi yr oedd ei symbyliad yn cychwyn yn y diwylliant llewyrchus y cynysgaeddwyd y llythyrwr ag ef ym more ei oes ym Methesda. O hedyn y llythyr hwn y tyfodd coeden Cymdeithas Llyfrau Cymraeg Cymry Llundain, coeden Undeb y Cymdeithasau Llyfrau Cymraeg dywedir fod tua deunaw ohonynt ar un adeg ïe, a choeden Cyngor Llyfrau Cymraeg Cymru. Peidied neb â'm cam- ddeall. Nid wyf yn anwybyddu cyfraniad enfawr gwyr fel Mr. Alun Edwards ac eraill. Diolch i'r Nefoedd yr oedd gennym ac y mae gennym wyr fel Mr. Emlyn Evans. Ond os gwelwn arwyddocâd y llythyr hwn yng nghadwyn y digwyddiadau, rhaid i ni weld pwysig- rwydd gweithred y llythyrwr. Dyna paham na phetrusaf ei alw'n gymwynaswr ei genedl. Fel y dywedais, sefydlu Cymdeithas Llyfrau Cymraeg Cymry Llundain a symbylodd sefydlu Undeb Cymdeithas Llyfrau Cymraeg Cymru. Nid heb reswm y cysylltodd fy niweddar athro, Syr Thomas Parry, sefydlu'r Undeb â sefydlu'r Ysgolion Cymraeg.