Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXLVII (622-625) 1992

Dafydd ap Gwilym : cywyddwr cynnar

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Dafydd ap Gwilym: cywyddwr cynnar*
O holl feirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol, Dafydd ap Gwilym yw'r un
y medrwn ni fel pobl ifanc glosio ato. Yn ei gwmni ef rywsut y mae
trwch y gynulleidfa gyfoes sy'n darllen barddoniaeth Gymraeg cyn
cyfnod William Williams Pantycelyn yn teimlo hapusaf. Un rheswm
dros y diddordeb hwn yn sicr yw mai serch yw prif bwnc y bardd, pwnc
sydd wrth fodd a chalon pawb ohonom ni bobl ifanc. Ac y mae lle cryf
i gredu hefyd mai pobl ifanc, yn ferched a bechgyn, a ymddiddorai
fwyaf yn y canu serch yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.1 'Roedd yn bwnc
poblogaidd, yr un mor boblogaidd ar ryw ystyr ag yw serch yng
nghaneuon pop y dwthwn hwn. Archwilio'r teimlad a'r berthynas
rhwng mab a merch yn ei amryfal brofiadau melys a chwerw a wna
Dafydd ap Gwilym yn ei gerddi serch.
Rheswm arall pam yr ydym yn cymryd at waith Dafydd ap Gwilym
yw fod nod personoliaeth y bardd ei hun ar y farddoniaeth. Ni all y
rhai hynny sydd wedi darllen y cywydd 'Trafferth Mewn Tafarn', er
enghraifft, ddim peidio â theimlo eu bod ym mhresenoldeb unigolyn
a chanddo bersonoliaeth liwgar a deniadol. Oherwydd dyna yw'r
pwynt allweddol, sôn am ei brofiadau ef ei hun y mae, boed y rheini'n
rhai go-iawn neu'n gynnyrch ei ddychymyg. Efô yw'r prif gymeriad
yn y rhan fwyaf o'i gerddi, ac y mae cael bardd canoloesol yn ei wneud
ei hun yn brif destun ei farddoniaeth yn beth eithriadol. Nid oedd yn
arferiad gan feirdd llys mewn unrhyw wlad gyfansoddi cerddi a oedd
yn mynegi eu teimlad personol. Yn amlach na pheidio, mynegi
teimladau ei gymdeithas a wnâi bardd llys drwy ganu mawl a
marwnad i arweinwyr cymdeithas yn unol â delfrydau'r gymdeithas
honno. Gan fod stamp personoliaeth Dafydd ap Gwilym yn
ddiamheuol ar ei waith, y mae modd i ni nesáu ato ac ymserchu
*Traddodwyd y ddarlith hon yn yr Ysgol Undydd i Fyfyrwyr Chweched Dosbarth
a drefnwyd gan Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 20
Chwefror, 1991.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.