Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ynddo. Rhan o'r pleser o ddarllen gwaith y bardd hwn yw ei fod yn aml yn sôn am brofiadau sy'n gyffredin i ni hefyd. Rheswm arall dros boblogrwydd canu Dafydd yw fod y bardd yn aml yn ymddwyn fel comediwr neu glown. Da y dywedodd Anthony Conran amdano the Charlie Chaplin of the time'.2 Y mae cymeriad sy'n peri i gynulleidfa chwerthin bob amser yn gymeriad agos-atoch. Gall Dafydd ein gogleisio ni drwy wneud ei helyntion caru ef ei hun yn destun sbort. Mae ei hiwmor yn amrywio'n fawr o'r math o gomedi slapstick a geir mewn cywydd tebyg i 'Y Cwt Gwyddau', i'r hiwmor cynilach a seiliwyd ar eironi a geir yng nghywydd 'Ei Gysgod', er enghraifft. Ar wahân i'r doniolwch amlwg sydd yng ngwaith Dafydd ap Gwilym, ni allwn osgoi'n llwyr y posibilrwydd mai llacio'r tyndra neu'r tensiwn y mae'r holl ddigrifwch. Gall chwerthin fod yn rhyw fath o falf ddiogelwch rhag pwysau llethol tristwch. Dywedir weithiau fod Dafydd ap Gwilym yn fardd unigryw am ei fod yn sefyll o'r naill du i briffordd y traddodiad barddol. 'Doedd o ddim yn fardd y traddodiad, medd rhai, am mai rebel ydoedd yn cicio yn erbyn y tresi. Ond teg yw gofyn beth yn hollol a olygir wrth draddodiad? Mae bardd sy'n cyfansoddi o fewn traddodiad yn derbyn syniadau ei ragflaenwyr am natur a hanfod barddoniaeth. Etifedda wybodaeth am y ddysg a'r grefft farddol a draddodir o genhedlaeth i genhedlaeth o enau athro i'w ddisgybl. 'Roedd y Gogynfeirdd, er enghraifft, yn defnyddio iaith a delweddau a syniadau yr oedd y Cynfeirdd o'u blaen wedi eu defnyddio wrth foli a marwnadu penaethiaid. Rhaid cofio mai crefftwyr proffesiynol oedd y beirdd yn yr Oesoedd Canol, yn union fel seiri coed neu ofaint. Yn wir, 'roedd y beirdd Cymraeg yn hoff o gyfeirio atynt eu hunain fel 'seiri gwawd', sef seiri cân neu gerdd. Nid amcanu at fod yn newydd a gwreiddiol a wnâi'r beirdd, ond tuedddu i efelychu eu rhagflaenwyr gan dderbyn y safonau confensiynol a thraddodiadol. Ym myd barddas erbyn heddiw mae' pwyslais wedi newid bron yn llwyr. Gorau oll os yw bardd cyfoes yn unigryw, yn flaengar ac yn wreiddiol. Mor aml y clywn ni ddweud f gan y bardd a'r bardd ei lais arbennig ei hun. Ceisio osgoi dynwared efelychu eu rhagflaenwyr y bydd beirdd cyfoes. Ni allwn dderbyn mai rebel oedd Dafydd ap Gwilym. wrthryfelai yn erbyn y'gyfundrefn farddol a oedd yn ei gynnal; hytrach, yr oedd ef ei hun yn etifedd llawn y ddysg fard Derbyniodd hyfforddiant yn y grefft gan ei athro barddol, Llyw ap Gwilym, a oedd, fel y mae'n digwydd, yn ewythr iddo. M Dafydd ganu awdHòTiant a marwnad yn null y Gogynfeirdd, fell^^f yr ystyr honiirj yr oedd yn fardd y traddodiad. Ond fe lwyddod ychwanegu'n sylweddol at y traddodiad a etifeddodd. Cyfoeth traddodiad a wnaeth nid gwrthryfela'n ei erbyn. Yn sicr, nid c^H