Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Galw wrth fynd heibio Mae'r cof am y tro hwnnw y gwelais i weld Doris mor ddifyfyr yn dal i'm hanesmwytho ar brydiau. Ar fy ffordd adref o'r ysgol yr oeddwn y p'nawn hwnnw o Fedi, yn ôl yn amser rhyfel. 'Roeddwn i wedi bod i ffwrdd am ryw bum wythnos ym mherfeddion Lloegr, lle 'roedd fy ngwr yn swyddog yn y fyddin, cyn iddo gael ei anfon dros y dwr. Ond 'roeddwn yn ôl bellach gyda'm gwaith fel athrawes, a'r diwrnod hwnnw yn teimlo 'mod i'n dechrau cael gafael ar bethau eto. Cofiaf feddwl wrth gerdded adref mor bert oedd yr hen gwm o hyd. Cyn bo hir byddai'r rhedyn yn troi'n rhwd ar y bryniau, 'roedd dail y coed yn dechrau troi'u lliw, ond ymhell o syrthio eto, ac yr oedd gwres yn dal yn yr heulwen. Cystal gwneud y gorau o bethau! Wrth fynd dros bont y relwê a dod i olwg y Siop, cofiais i Mam sôn fod Doris wedi gwaelu dipyn yr wythnosau diwethaf, a'i bod yn cadw'r gwely 'nawr. 'Roedd hi'n siwr o fod yn tynnu am ei hanner- cant, fe dybiwn; ddim yn hen, ychydig yn iau na Mam. Cafodd fywyd reit braf, gwisgo'n smart, gwr golygus rhy hen i gael ei alw 'lan dim plant, yn anffodus, ond gwyliau braf bob blwyddyn, yn Bournemouth neu Torquay; car mawr ganddyn' nhw, a chyn y prinder petrol yn medru mynd i'r Mwmbwls neu Borthcawl ar b'nawn rhydd, a weithiau ar y Sul yn yr haf, er mawr ofid i'r gweinidog a dicter i'w wraig! Penderfynais yn sydyn alw i'w gweld a minnau wedi bod oddi cartref cyhyd. Gwyddwn y byddai'n falch o'm gweld, ac mi fyddai'n gyfle i minnau i sôn amdanom ni'n dau mewn ffordd na fedrwn siarad â Mam. Felly y dechreuodd yn ddigon difyfyr ymweliad nad anghofiaf byth, ac er ei anesmwythyd, na fynnwn am y byd fod wedi ei golli. Ar ôl cael gair gyda Dic, ei gwr, es i drwy'r siop i'r ystafell ganol lle 'roedd yr hen wr, ei thad-yng-nghyfraith, yn pendwmpian wrth y tân, a chan ddilyn ei gyfarwyddyd ymlaen â mi i'r parlwr. Bellach yr oedd yn ystafell-wely i Doris, ac fe'i lluniwyd ar ddelw boudoir un o sêr y