Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bywyd a gwaith Owen Thomas (1812-1891)* Mae disgwyl cyson i ddarlithydd, yn arbennig mewn cyfarfodydd sy'n clodfori bywyd a gwaith gwyr amlwg, ganmol y gwrthrych. Ac nid oes dim o'i le yn hynny; yn wir, ni ddylid gwahodd rhywun i ddryllio'r delwau'n ddidrugaredd ond i roddi darlun mor gytbwys ag sy'n bosibl, a hynny ar bwys ffeithiau a phortreadau ohono gan ei gyfoeswyr. A dyna bwrpas y ddarlith hon: ceisio mesur a phwyso cyfraniad Owen Thomas yn ei gyfnod, a chofio mai cynnyrch pobl gyffredin o ran cefndir oedd y gwr grymus hwn. Ond pobl gyffredin a oedd yn anghyffredin oeddynt, am eu bod am eu diwyllio'u hunain, ym myd crefydd yn arbennig. Ffrwyth ail genhedlaeth y Diwygiad Methodistaidd, cynnyrch yr Ysgolion Sul oeddynt. Ac o'r cefndir hwn y cawsom deulu rhyfeddol iawn, a dau ohonynt, Owen a John Thomas, yn arweinwyr cydnabyddedig yn eu hoes a'u dyddiau, heb anghofio William a Josiah. Da o beth yw cofio mai ardal Llanddeiniolen oedd ardal enedigol y Thomasiaid, a medrir mynd yn ôl mor bell â 1406 pryd y deuwn o hyd i'r Owen Thomas cyntaf. A hyd y gwelaf fi, fe roddid yr enw Owen Thomas ar chwech ohonynt dros y canrifoedd — yn 1406, 1583, 1716, 1751, 1785 ac yna 16 Rhagfyr, 1812, mewn ty bychan yn Heol y Felin, Caergybi, ar yr Owen Thomas yr ydym ni yn mynd i'w adnabod! Ac felly fe anwyd Owen Thomas gyda'r un enw â'i dad. Ac yr oedd ei dad yn un o saith o fechgyn. Lliniwr oedd ei dad. Gelwid ef Owen Thomas y Lliniwr, ac yr oedd pob un o'r bechgyn yn y swydd honno. Ond bywyd anodd oedd bywyd yn y diwydiant gwlân a bu'n rhaid gadael Penisa'rwaun am Langoed, Môn. A phenderfynodd y bechgyn, gan gynnwys y tad, Owen Thomas, droi at waith arall fel naddwyr cerrig yn fuan ar ôl cyrraedd Llangoed. Darlith a draddodwyd ym Mhrifysgol Lerpwl mewn Ysgol Un-Dydd i gofio cyfraniad y Parchedig Ddr. Owen Thomas ar Sadwrn, 19 Hydref, 1991.