Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

farwolaeth ei briod daeth ei chwaer Sarah i Lerpwl o Fangor, a dwyn eu mam gyda hi, i gadw ty iddo a llywodraethu ar y teulu. Bu hynny yn fantais fawr i'w fywyd cyhoeddus. Gallai grwydro llawer mwy o hyn allan. 'Roedd ei briod yn wraig ofnus, yn tueddu i fynd yn ddigalon, ac yn gofidio pan oedd ei phriod i ffwrdd ar ei deithiau. Gofalodd ei chwaer ei fod yn cael pen rhyddid, a rhyddid i wario arian mawr ar ei lyfrgell a chael pob gofal i lenydda ac astudio. Pan ddaeth y newydd am ei farw ar 2 Awst, 1891, mynegodd llu o bobl eu teyrnged mewn ysgrifau a llythyron, a'r deyrnged sydd wedi aros yn fy nghof i, yw'r deyrnged a ymddangosodd mewn llythyr at ei ferch, Sarah, oddi wrth fardd telynegol o Sir Gaernarfon, y Parchg. Owen Griffith Owen, a adnabyddid fel 'Alafon', gwr a gyffelybwyd i Sant Ffransis o Assisi, am ei fod ef yn ymddiddan ag adar ac yn hoff ohonynt: 'Dyn mawr, dyn gonest, dyn da, a dyn annwyl mewn gwirionedd.' Dyna ddweud mawr a dweud digon. D. BEN REES Lerpwl