Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXLVII (622-625) 1992

Bywyd a gwaith Owen Thomas (1812-1891)

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Adolygiadau
ISAAC THOMAS, Yr Hen Desta-
ment Cymraeg 1551-1620 (Llyfrgell
Genedlaethol Cymru, Aberystwyth,
1988), tt.351).
Llwyddodd y Dr. Isaac Thomas i
ddirwyn ei waith ymchwil dros nifer
mawr o flynyddoedd ar y Beibl
Cymraeg i ben gyda'r ymdriniaeth
hon ar hanes cyfieithu'r Hen
Destament a'r Apocryffa. Mae'n
gymar felly i'w astudiaeth flaenorol
Y Testament Newydd Cymraeg
1551-1620 a gyhoeddwyd yn 1976, ac
fe'i nodweddir gan yr un trylwyredd
a manylder a amlygwyd yn yr
astudiaeth honno. Cyhoeddwyd
cynnwys y gyfrol ddiweddaraf hon
ar ffurf erthyglau yng Nghylch-
grawn y Llyfrgell Genedlaethol ac
fe'u casglwyd ynghyd i un gyfrol i
ddathlu pedwar canmlwyddiant
Beibl William Morgan.
Yn y ddwy gyfrol dilynir yr un
cynllun: ymdriniaeth 'r cynigion
cyntaf at gyfieithu darnau o'r
Ysgrythur i'r Gymraeg cyn y
Diwygiad Protestannaidd; yna
trafodaethau ar waith William
Salesbury yn arwain at gyfraniad
William Morgan ei hun. Ar y
diwedd cymherir y fersiwn diwyg-
iedig a ymddangosodd yn 1620 
Beibl 1588, ac fel y nodwyd, caiff yr
Apocryffa sylw yn ogystal 'r Hen
Destament ei hun.
Yn y bennod gyntaf trafodir y
cyfieithiadau o ddarnau o'r Hen
Destament a geid eisoes cyn y
Diwygiad Protestannaidd, megis
rhai'r Bibyl Ynghymraec,
Gwassanaeth Mair, Llyfr Ancr
Llanddewi Brefi ac Ystorya Adaf.
Ohonynt y daeth amryw o'r
ymadroddion a'r geiriau a ddef-
nyddiwyd yn ddiweddarach gan
gyfieithwyr yn unfed ganrif ar
bymtheg.
Y cam cyntaf yn ymdrech William
Salesbury i drosi'r ysgrythurau i'r
Gymraeg oedd ei gyfieithiad o'r
llithiau yn y Llyfr Gweddi
Gyffredin, yr 'epistolau ac efeng-
ylau', a ymddangosodd yn 1551 0
dan y pennawd Kynniver llith a ban.
Yn eu plith yr oedd saith darn o'r
Hen Destament ei hun (gadawyd un
ohonynt, y darn am y wraig
rinweddol yn Llyfr y Diarhebion
allan o Lyfr Gweddi 1567). Awgryma
Dr. Thomas iddo ddefnyddio tair
ffynhonnell wrth gyfieithu'r darnau
hyn: fersiwn Lladin Sebastian
Mnster (1535) a argraffwyd gyda
thestun Hebraeg yn gyfochrog 'r
Lladin, y cyfieithiad Saesneg a
adnabyddid fel Y Beibl Mawr (1539)
a'r Fwlgat. Y mae tystiolaeth hefyd
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.