Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iddo ystyried yr Hebraeg gwreiddiol, ond ni honnir iddo gyfieithu'n gyson yn uniongyrchol o'r iaith honno: yn wir y mae lle i gredu mai yn y cyfnod hwn yr oedd Salesbury yn dysgu'r iaith (tt.51-2). Wrth gyfeirio at Kynniver llith a ban, efallai y goddefir imi gyfeirio at gyhoeddiadau eraill Dr. Thomas lle mae'n ymdrin â'r awgrym i Sales- bury gyfieithu'r dyfyniadau o'r Hen Destament yn Efengyl Mathew o'r Hebraeg 'gwreiddiol' yn hytrach nag o'r Groeg. Ymdriniwyd â'r mater yn Y Testament Newydd Cymraeg 1551-1620, tt.78-80, lle y dadleuodd i'r cyfieithydd hoffi troi at yr Hebraeg ar brydiau, a bod yn gyson â'i addefiad yn ei Lythyr Annerch i'r esgobion ar ddechrau Kynnifer llith a ban iddo yn yr efengyl honno fod 'yn dra chwannog i ddilyn y testun Hebraeg'. Erbyn iddo lunio'i ysgrif ar 'Y Cyfieithiadau' i'r gyfrol Y Gair ar Waith: Y sgrifau ar yr Etifeddiaeth Feiblaidd yng Nghymru (gol. R. Geraint Gruffydd, 1988) dywed Dr. Thomas iddo yn y cyfamser ddar- ganfod fersiwn Hebraeg Shem-Tob ben Isaac ben Shaprut (gwall yw Sharprut ar d.49 y gyfrol, a hefyd nodwn mai 1380, nid 1385 fel y dywedir yma, yw dyddiad y fersiwn hwn) o Efengyl Mathew. Cred erbyn hyn fod copi o fersiwn Shem-Tob yn argraffiad Münter o flaen Salesbury pan gyfiethiai'r 'efengylau' o Efengyl Mathew ar gyfer Kynnifer llith a ban. Yn ddiweddar deuthum innau ar draws dwy ysgrif ar fersiynau Hebraeg o Fathew o'r canol oesoedd gan George Howard, ysgolhaig Beiblaidd adnabyddus o Brifysgol Georgia, U.D.A., a luniodd argraff- iad beirniadol o destun Hebraeg Shem-Tob ynghyd â chyfieithiad Saesneg, The Gospel of Matthew According to a Primitive Hebrew Text (Mercer University Press, Macon, Georgia, 1987). Lluniodd Shem-Tob bolemig mewn pymtheg rhan o dan y teitl Hebreig Even Bohan ('Y Maen Prawf'). Yn y ddeuddegfed rhan cynhwysir fersiwn Hebraeg o Efengyl Mathew, lle ceir darnau o'r testun a sylwadau polemig Shem-Tob bob yn ail â'i gilydd. Yn 1537 cyhoeddodd Münster fersiwn Hebraeg o Fathew ynghyd â chyfieithiad Lladin ohono. Yn ei lythyr annerch at y Brenin Harri'r VIII dywed iddo dderbyn y fersiwn Hebraeg mewn ffurf wallus oddi wrth Iddewon a'i fod wedi adfer a chyflenwi yr hyn oedd yn ddiffygiol yn y llawysgrif. Yn anffodus ni ddengys pa ddarnau'n union a ychwanegodd ef ei hun. Er i Dr. Thomas awgrymu mai cyfieithiad o'r Fwlgat oedd y Mathew Hebraeg hwn, daeth Howard i'r casgliad mai copi yw o hen gynsail Hebraeg a luniwyd yn wreiddiol yn yr iaith honno er i ddiwygiadau diwedd- arach ohono geisio ei ddwyn yn agosach at y Groeg a'r Lladin. Mae'r dyfarniad hwn felly yn cefnogi casgliad cyffredinol Dr. Thomas mai tuedd Salesbury ymhobman arall heblaw yn achos y dyfyniadau ym Mathew oedd gwrthod darllen- iadau arbennig o'r Fwlgat (gw. Y Gair ar Waith, t.49). Ond erbyn hyn felly gwelwn ei fod yn fwy cyson wrth gyfieithu nag y tybiwyd yng- hynt. (Dibynnais yma ar ysgrifau Howard yn The Journal of Biblical Literature: 'The Textual Nature of an Old Hebrew Version of Matthew', cyf.105 (1986), tt.49-63, a 'The Textual Nature of Shem-Tob's Hebrew Matthew', cyf.108 (1989), tt.239-257.) Y mae dylanwad Beibl Saesneg Genefa (1560) yn drwm ar ddiwygio Salesbury o'i gyfieithiadau cyn- harach o'r 'Epistolau' ar gyfer Llyfr Gweddi 1567. Nodir hefyd iddo hepgor unrhyw ddefnydd pellach o'r Mathew Hebraeg. Casgliad Dr. Thomas yw ei bod yn 'ymddangos