Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oes yr un o destunau gwreiddiol Semitig llyfrau'r Apocryffa wedi goroesi yn gywir, gan fod, e.e., rhannau o Lyfr Eccelsiasticus yn Hebraeg ar gael ers yn agos i ganrif bellach. Mewn cyfrol sy'n cynnwys cymaint o fanylion yn ymwneud â nifer o ieithoedd y mae'n anochel y bydd rhai llithriadau. Sylwyd ar y canlynol: 'of' wedi'i ddyblu'n ddiangen mewn enghraifft o Feibl Genefa ar d. 103, a'r un modd 'yn' yn adran (b) ar d.118; y fannod yn eisiau o flaen y gair 'fersiwn' ar d.115; 'whahanol' yn lle 'wahanol' ar d.127; 'cyntundeb' yn lle 'cytundeb' ar d.138, 'unirgyw' yn lle 'unigryw' ar d.144, 'Almaenaeg' yn lle 'Almaeneg' ar d.146 ac 'Arameg' yn lle 'Aramaeg' ar d.316. 'Morgan' yn lle 'Salesbury' ar d.162, llinell 9, 'dduliau' yn lle 'ddulliau' ard.165, a 'dulliau' yn lle 'ddulliau' ar d.230. 'A'r wahân' yn lle 'Ar wahân' ar d.237, ac 'Arfeir' yn lle 'Arferir' ar d.240, ac 'enhraifft' yn lle 'enghraifft' ar d.317. Gyferbyn ag enw Roberts, B.J. yn y Mynegai 342, n.2 yn hytrach na 242, n.2 sy'n gywir. Ar d.166, llinell 17, Salm cxviii.18 yn hytrach na cxviii.8 sy'n gywir, ac ar d.326 at Eclus. i.13, nid i.12, y cyfeirir. Y mae hefyd beth ang- hysondeb yn ansawdd yr argraffu ar yr Hebraeg o'r naill bennod i'r llall: mae hyn i'w briodoli, mae'n debyg, i'r ffaith fod y penodau hyn wedi ymddangos gyntaf mewn rhifynnau gwahanol o Gylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae rhannau o bennod 5, e.e., tt.163-711e mae'r llafarnodi braidd yn aneglur, ac ar d.207 mae llythyren olaf y gair Hebraeg 'Pwrim' yn anghyflawn. Sillafwyd y ferf Roeg heuren yn anghywir ag anadliad ysgafn ar d.312, a gyda llaw yn 1 Mac.i.ll y digwydd hynny nid yn yr adnod ddilynol. (Mae'r manylion hyn yn hollol gywir ar d.336.) Ar t.335 at d.310, nid t.13, y cyfeirir ar linell 19. Dylid fod wedi nodi bod rhannau o Esra i-x mewn Arameg yn ogystal â Hebraeg (gw. t.308). Eithr manion yw'r holl bethau hyn mewn gwaith mor fanwl a chynhwysfawr. Byddwn o11 yn fythol ddyledus i Isaac Thomas am ei gyfraniad gorchestol a'n goleuodd am ddulliau cyfieithwyr Cymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg o weithredu a'r gwahanol ddylanwadau a fu arnynt. J. TUDNO WILLIAMS, Y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth 1 Ionawr, 1992