Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chosbi, o annog ac o geisio perswadio'n gilydd yn rhagdybio ein bod yn bobl sydd yn meddu ewyllys rydd. Dyna un ffordd o edrych ar bethau; dyna un darlun, megis, o'r amgylchiadau y byddwn yn gweithredu danynt yn ein bywyd beunyddiol. Fel yna'n hollol y mae pethau yn edrych o un safbwynt. Ond y mae yna ddarlun hollol wahanol yn bosibl; fe ellir gweld pethau mewn golau gwahanol iawn. Felly gadewch i ni symud at safbwynt gwahanol, ac edrych ar bethau o'r safbwynt hwnnw am funud. Fe gredwn fod digwyddiadau'r byd yr ydym yn byw ynddo yn digwydd yn ôl rheolau cyson deddfau natur. Y mae gennym ddarlun o'n hamgylchfyd fel lle y mae popeth yn digwydd ynddo yn ôl trefn achos ac effaith. Os gollyngaf y pwysau sydd yn fy llaw, fe ddisgwyliaf iddo ddisgyn i'r llawr yn ôl deddf disgyrchiad. Os pwysaf fy nhroed ar ysbardun y car, fe ddisgwyliaf iddo gyflymu; ac os nad yw'n gwneud hynny, fe gasglaf ar un waith fod rhywbeth o'i le. Ac, wrth gwrs, fe gredwn fod yna reidrwydd yn hyn i gyd. Os cynhesaf y dwr i dymheredd arbennig y mae'n rhaid iddo ferwi; os taniaf y petrol y mae'n rhaid iddo ffrwydro, ac felly'n y blaen. Unwaith eto y mae'n werth cofio nad rhagdybiaeth ddamcan- iaethol yn unig ydyw'r dybiaeth fod popeth yn digwydd yn ôl trefn achos ac effaith. Fe weithredwn ar y dybiaeth yn ein bywyd bob dydd. Pe na byddai pethau'n digwydd yn ôl y ragdybiaeth hon, fe fyddem ar goll yn lân. Pe na byddai holl fecanyddwaith y car yn gweithredu yn rheolaidd yn ôl deddf achos ac effaith, fe fyddai gyrru'r car yn amhosibl. P'le byddai amaethyddiaeth oni bai am drefn achos ac effaith? Ac yn wir y mae'n anodd dychmygu pa fath fyd materol a fyddai'n bosib o gwbl oni bai am drefn felly. Ac wrth gwrs y mae ein corff ni'n rhan o'r byd naturiol hwn, ac yn ddarostyngedig i drefn achos ac effaith fel popeth arall. Yn wir y mae'n anodd iawn dychmygu pa fath o gorff a fyddai'n bosibl i ni oni bai fod ei gemegoedd, a'i gelloedd a'i organau yn gweithredu'n rheolaidd yn ôl trefn achos ac effaith. Felly hefyd yr holl system nerfol gan gynnwys yr ymennydd. Os yw'r llaw yn symud mewn ffordd arbennig, fe wna hynny am fod y cyhyrau yn tynnu ac ymestyn mewn ffordd gyfaddas. Ac y mae'r cyhyrau yn gweithredu felly am fod y nerfau sydd yn cysylltu â hwy yn eu symbylu mewn ffordd hollol arbennig. Torrwch y cysylltiad ac fe â'r fraich yn ddiffrwyth ar unwaith. Ac wrth gwrs y mae lle i gredu fod ymwneud y celloedd nerfol yn yr ymennydd yn gweithredu yr un mor rheolaidd yn ôl rheolau achos ac effaith. O edrych ar bethau yn y golau hwn fe ymddengys fod symudiadau'r corff symudiadau bysedd y pianydd, er enghraifft, a symudiadau tafod a thannau llais yr ymgomiwr — wedi eu penderfynu gan ddigwyddiadau celloedd nerfol yr ymennydd yn ôl trefn achos ac