Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oherwydd na allai fforddio talu amdani, byddai'n rhaid iddi hithau rhoi dirwy (o ryw bumpunt, os cofiaf yn iawn) ar y weddw druan. Da y gwnaeth yr ynades honno'n ymddiswyddo: 'roedd ei geiriau'n dangos nad oedd hi'n gwybod ei gwaith, am na wyddai fod arni ddyletswydd i ddangos trugaredd lle'r oedd trugaredd yn briodol. Gellir maddau iddi, ac i'r pregethwr, gan fod ambell adnod (hyd yn oed) wedi peri inni feddwl am Gyfiawnder a Thrugaredd fel petaent yn anghyson â'i gilydd ond rhaid i gyfreithydd2 ddweud yn hollol gadarn na ellir gwneud cyfiawnder llawn heb fod yn barod i ddangos trugaredd. Mae unrhyw gyfundrefn gyfreithiol wâr yn cydnabod hynny'n fwy neu lai ffurfiol. Dyma un 0 lyfrau Cyfraith Hywel, wrth sôn am hawl yr Arglwydd i liniaru cosb, yn pwysleisio na fyddai gwneud hynny'n torri ar y gyfraith: Oni allant gaffael y ddirwy hon [o dair punt], arglwydd a eill gymryd tair ceiniog am y tair punt os myn, ac yn deg y gyfraithý Os oedd gwyr cyfraith Cymru'r 13 ganrif yn cyhoeddi'r egwyddor yn groyw felly, mae Cyfraith Loegr heddiw'n gweithredu'r egwyddor er nad yw'n ei datgan yn rhyw ddealladwy iawn. Am resymau sy'n codi oddi ar hanes droellog gweinyddiad Cyfraith Loegr, mae'r gair pardon ar arfer am y rhyddhad a roir pan welir nad oedd dim i'w faddau; pan welir fod rhywun wedi'i gollfarnu ar gam, nid oes modd dileu'r gollfarn, ond rhoddir i'r sawl a gafodd gam bardwn rhad. Nid rhoi maddeuant y byddir wrth gyflwyno pardwn, ond datgan nad oedd angen maddeuant, am fod y dyfarniad euog yn anghywir. Pan fydd rhywun wedi troseddu, a'r rhai sy'n ei farnu'n gweld fod maddeuant yn briodol, maent yn cyhoeddi maddeuant drwy roi iddo ryddhad di-amod — sef rhyddhad oddi wrth gosb. Discharge yw'r gair Saesneg, ac efallai y gellid cyfleu'r syniad yn rymusach yn Gymraeg drwy'r gair dadfeichio, gan mai rhyddhau o faich y cyhuddiad neu'r gosb y mae'r dyfarniad arbennig yna. Gwell fyth efallai, fyddai'r gair diheuro: nid gair byw yng Nghymraeg heddiw yn ei ffurf seml, ond gair sy'n digwydd mewn cyd-destun pwrpasol yng ngherdd Siôn Cent: Gwn mai 'niheuro a gaf, Fy mhwrs, gormersi am hyn dichon mai dweud yr oedd y bardd y câi ei ddyfarnu'n ddieuog, ond dichon hefyd mai dweud yr oedd y câi ddianc yn ddi-gosb. A heddiw, wrth ymddiheuro, syrthio ar ein bai a gofyn am faddeuant y byddwn. Deuir yn ôl at y pwynt geiriol yna eto yn nes ymlaen.