Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Wesley a'i Brif Phisigwriaeth 'Pan ddaeth dyn allan gyntaf o ddwylaw y Creawdwr mawr, wedi ei wisgo mewn corff, yn gystal ag mewn enaid, ag anfarwoldeb ac anllygredigaeth, nid oedd raid wrth phisigwriaeth'. Felly y cyf- lwynodd John Wesley ei lyfr ar ffisigwriaeth. Dyma'r byd lIe 'roedd yr holl greadigaeth mewn cytgord â dyn, a dyn mewn cytgord â'i Dduw. Buan y newidiodd y sefyllfa, 'ond er pan wrthryfelodd dyn yn erbyn Penadur nef a daear, y corff anllygredig a wisgodd lygredigaeth, a'r anfarwol a wisgodd farwoldeb.' Dyma'n union yr agwedd a ddisgwyliem i offeiriad ei chymryd at achos afiechyd dros y can- rifoedd. Yn ystod y Pla Mawr yn Llundain (Pla'r Biwbo) ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg 'roedd Rhys Prichard yn bygwth y pla ar blwyfolion pechadurus Llanymddyfri, a gweddill Cymru o ran hynny, ac yn gofyn iddynt, Pan y'th drawer gynta a chlefyd, Ystyr o ble daeth mor danllyd, A phwy helodd glefyd attad, A phaham y dodwyd arnad. Duw ei hun sy'n danfon clefyd Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd; Am ein beiau mae'n ei hela, I geisio gennym droi a gwella. Ond mae gwahaniaeth dybryd rhwng agwedd Wesley ac agwedd Rhys Prichard. Dilynodd yr Hen Ficer y traddodiad a oedd eisoes yn bod yng nghyfnod y canu Homeraidd. Onid llid Apollo am droseddu fu achos marwolaeth tylwyth Niobe? Ac mae Samuel yn cofnodi i Dduw yn ei lid drawo Uzziah yn gelain ar lawr dyrnu Nachon am iddo gyffwrdd Arch y Cyfamod. Felly ymysg Cristionogion a phaganiaid yn ddi-wahân, y gred oedd fod Duw neu'r Duwiau yn anfon afiechyd fel cosb am bechod.