Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Brwydr y Gymraeg yng Ngorllewin Cymru -Tair Ffrynt 'Economi amaethyddol a ddifrodwyd yw hon.' Dyna ddisgrifiad Gareth Alban Davies o Selva de Mar yn ei erthygl Selva de Mar, Costa Brava a gyhoeddwyd yn Taliesin, Cyfrol 68, Tachwedd 1989. Dyma ddisgrifiad y gellid ei ddefnyddio wrth gyfeirio at ardaloedd gwledig Gorllewin Cymru yn ogystal. Er enghraifft, yng Ngheredigion digwyddodd newidiadau syfrdanol yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Newidiodd natur y boblogaeth yn enbyd. Erbyn heddiw prin yw'r ardaloedd sy'n meddu ar bentrefi â hanner y trigolion yn Gymry, ac y mae nifer helaeth o'r ffermydd hefyd yn nwylo estroniaid. Yn ystod y pumdegau a blynyddoedd fy mhlentyndod i yng Ngheredigion yr oedd niferoedd y Cymry a ddewisai adael eu cynefin wedi cynyddu. O'r herwydd prynai Saeson rai ffermydd ond eto prin oeddynt. Pobl a drigai yn y trefi megis Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth oedd y Saeson gan mwyaf. Ond gyda thwf diboblogi o du'r brodorion cynyddai nifer y Saeson a ddeuai i'r wlad i fyw. Daeth y twf yn y diboblogi hwn yn amlwg i ni, blant y pumdegau a'r chwedegau a arhosodd ym mro ein mebyd oherwydd diflannodd ein ffrindiau ysgol o'r ardaloedd hyn bron i gyd, ac ni wn i erbyn hyn ymhle ar y ddaear y maent yn byw nid yng Nghymru, yn sicr. Llenwi'r gofod a adawyd ar eu holau a wnaeth y Saeson i gychwyn. Ond yna penderfynodd nifer helaeth o Gymry a etifeddodd ffermydd eu teuluoedd, ond eto'n dal i fyw yn y cylchoedd hyn, werthu'r etifeddiaeth hon i Saeson oherwydd yr oedd ffynhon- nell ddihysbydd o brynwyr o Loegr yn awchu am feddiannu tir Cymru. Dewis byw mewn tai cyngor a chyflawni mân swyddi a wnaeth y Cymry hyn a fu'n gwerthu eu hetifeddiaeth ond a arhosodd yn eu bròydd yn hytrach na symud i ardaloedd brasach tybiedig yn Lloegr. Erbyn heddiw prinhau y mae'r stoc dai gysefin, y tai a adnewydd-