Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Holi Islwyn Ffowc Elis gan Dyfed Rowlands C: Gwn eich bod wedi darlunio peth ar eich cefndir yn Cyn Oeri'r Gwaed, ond tybed a allech sôn tipyn am y dylanwadau llenyddol cynnar? Pryd y daeth yr awydd i 'sgrifennu? Oedd yna lenorion yn y teulu? Beth am ddylanwad yr ysgol? A: Yr oedd llyfrau yn fy nghartref, ac yng nghartre 'nhaid a nain — cofiannau, pregethau, diwinyddiaeth, esboniadau, a rhai llyfrau difyr, yn Gymraeg, bob un, gan gynnwys deg cyfrol Y Gwyddoniadur ac yn nhy f'ewythr a'm modryb yn Wrecsam lle y cefais fy ngeni a lle y byddwn yn mynd am wyliau pan oeddwn yn blentyn. 'Roedd fy ewythr yn Wrecsam yn brynwr a chasglwr llyfrau mawr, a chanddo doreth o lyfrau barddoniaeth Gymraeg y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, Cyfres y Fil a llyfrau O. M. Edwards i gyd, Llyfrau'r Ford Gron, y Cymru Coch (wedi'i rwymo hyd 1914), a llawer o drysorau eraill. 'Roedd parch mawr i feirdd yn ein teulu ni beirdd-bregethwyr yn arbennig! Byddai fy nain yn barddoni h.y., yn 'sgrifennu penillion duwiol ac ambell emyn — a'i chwaer, Modryb Hannah. 'Roedd brawd iddyn nhw'n fardd o fri lleol; mae llun ohono a dau neu dri thudalen o'i waith yn Cymru, 1902 (dydw i ddim yn cofio ym mha rifyn ar y funud). William Roberts oedd hwn ('Gwilym Berwyn'). Gwnaed fi'n ymwybodol yn ifanc iawn o gawr llenyddol y Dyffryn, sef Ceiriog. Dysgodd Miss Owen yn Ysgol Nantyr inni gydlefaru 'Nant y Mynydd', 'Gwcw' ac 'Aros a Myned'. Medrai fy nhad adrodd gwaith Ceiriog wrth y llath. Enillais fedal am adrodd yn Eisteddfod Canmlwyddiant Ceiriog yn y Neuadd Gynnull yng Nglynceiriog ym 1932 (dydw i ddim yn cofio beth oedd y darn). Y Prif Adroddiad, 'rwy'n cofio, oedd 'Y Ffrae', darn o 'Alun Mabon'. Byddai fy mrawd a minnau'n cael llyfrau'n anrhegion oddi wrth berthnasau ar ben ein blwydd a'r Nadolig. Dyna sut y darllenais i