Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwnaeth Hugh Bevan, John Gwilym Jones a Saunders Lewis lawer iawn i ennill i feirniadaeth lenyddol ei phlwyf ei hun yng Nghymru, ond y gwir arloeswr yn y feirniadaeth lenyddol ddiweddar yw'r Athro Bobi Jones â'i lyfrau Tafod y Llenor a Seiliau Beirniad- aeth (pedair cyfrol), a phleser yw cofnodi fod ei lyfrau'n cael eu dyfynnu gan y to iau o feirniaid llenyddol yn y gyfrol hon yn ogystal ag mewn mannau eraill, yn enwedig gan na chafodd y gyfrol gyntaf y croeso a deilyngai gan rai o gyfoedion yr awdur, ac na chafodd yr ail y sylw a haedda. Mawr obeithiaf y caiff Sglefrio ar eiriau fwy o sylw nag a gafodd Seiliau Beirniadaeth, nid am y rheswm, brysiaf i ddweud, fy mod yn credu ein bod yn gweld ynddi waith egin feirniaid llenyddol a fydd yn taflu beirniaid llenyddol y gorffennol i'r cysgod, ond am y rheswm ein bod yn gweld ynddi waith beirniaid llenyddol sydd yn ymhèl â'r un problemau â'u cymheiriaid ar y Cyfandir a chyda'r un rhagdybiau. Teg yw talu teyrnged yma hefyd i Wasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol, i'r Cyngor Llyfrau Cymraeg a'i noddodd, ac i'r Cyngor Celfyddydau sy'n noddi neu a oedd yn noddi'r Cyngor Llyfrau. Mor ddiweddar â'r chwedegau pan ddechreuais i ymddiddori yn y maes, tyst o'm herthygl ddigon amrwd, 'Arddulleg Ffurfiolwyr Rwsia', Ysgrifau Beirniadol, V, anodd oedd cael nawdd i gyhoeddi llyfrau fel hwn. Wrth sgrifennu'r erthygl honno 'roeddwn i'n ymwybodol hefyd fod angen helaethu geirfa'r Gymraeg yn y maes hwn, ac y mae'r golygydd ac awduron y gyfrol hon i'w llongyfarch yn galonnog am ddillwng problem yr eirfa'n llwyddiannus. Os yw eu pynciau'n astrus, mae eu hiaith yn ddigon gloyw, ac ni ddylai neb sy'n barod i arfer ei gelloedd llwyd, chwedl Poirot, betruso mynd i'r afael â phob pennod yn ei thro. Mae yma wyth bennod heblaw rhagymadrodd y golygydd: Pwys Llên a Phwysau Hanes (M. Wynn Thomas) Trwy Lygaid Ffeministaidd (Menna Elfyn) Dwy Lenyddiaeth Cymru yn y Tridegau (Dafydd Johnston) Darllen yn Groes i'r Drefn (Jane Aaron) Nes na'r Hanesydd neu Y Nofel Hanes (Wiliam Owen Roberts) Blodeuwedd Dymchwelyd y Drefn? (Delyth George) Darlun o'r Tirlun Cyflawn (Gerwyn Wiliams) Dysgu Darllen (Robert Rhys) Cloir y gyfrol â nodiadau ar bob un o'r cyfranwyr. Mae'r Rhagymadrodd fel y gellid disgwyl gan y Dr. John Rowlands yn oleuedig o ran syniadaeth ac yn loyw iawn o ran mynegiant. Eglura bwrpas y gyfrol: Wrth wahodd cyfraniadau ar gyfer y gyfrol hon, y brif egwyddor a gadwyd mewn golwg oedd fod angen awgrymu cyfeiriadau