Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dengys Jane Aaron (efallai am ei bod yn fwy o Farcsydd na Wynn Thomas), pe bai Gwenallt wedi ceisio mynegi ei brofiad ar y pryd yn ei ieuenctid, byddai'n bosibl naill ai derbyn ei eiriau fel yr ewyllysiai ef fynegi ei ymwybyddiaeth neu eu hamau'n llwyr a cheisio treiddio y tu ôl iddynt a cheisio deall yr ymwybyddiaeth honno er gwaethaf ei eiriau. Yn y pen draw mae'r hermenewteg newydd yn deillio o ddamcan- iaethau Marcs, Nietzsche a Freud gyda'u hymgais i lymuno ym- wybyddiaeth yr unigolyn i ymwybyddiaeth aelod o gymdeithas, i ymwybyddiaeth ei ewyllys i allu, neu i ymwybyddiaeth anymwybodol y psyche. Soniais ar y dechrau fod y golygydd wedi camddyfynnu ei eiriau ef ei hun, 'argyfwng gwacter ystyr', fel 'argyfwng ystyr'. Thema J. R. Jones oedd 'argyfwng gwacter ystyr' ac nid oedd yn thema hollol newydd ond i rai Cymry. Thema Wynn Thomas a Jane Aaron ar un olwg yw 'amledd ystyr'. Gellir cael mwy nag un ystyr o gerdd neu o stori a'r ystyron hynny o bosibl yn groes i'r ystyr a fwriadai'r awdur. Ond mae amledd ystyr yn codi'r cwestiwn ynglyn â 'gwir' ystyr a 'diffyg ystyr'. Os gellir mwy nag un ystyr i waith, a oes 'gwir ystyr' iddo, ac a oes ystyr o gwbl? Efallai mai 'rhith' yw 'ystyr', ac mai dyna yw argyfwng llenyddiaeth yng Nghymru fel ym mhob man arall. Ond nid problem i'r llenor yn unig yw problem ystyr. Mae'n broblem hefyd i'r athronydd, y diwinydd a'r sosiolegydd heb sôn am yr ieithydd. Fe'n sobrir trwom pan ddarllenwn frawddeg fel hon gan athronydd: 'There is no sense to the question what a noun really refers to, or what a speaker really means.' J. E. CAERWYN WILLIAMS YMDDIHEURIAD Ymddiheurwn i'n cyhoeddwyr, i'n cyfranwyr, ac i'n darllenwyr. Bwriadwyd cyhoeddi nifer sylweddol o adolygiadau yn y rhifyn hwn. Fe'u cyhoeddir yn rhifyn Ionawr.