Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saernïo'r Gofeb: T. Gwynn Jones a Chofiant Thomas Gee Datganodd Saunders Lewis yn ei drafodaeth sylfaenol ar y cofiant Cymraeg fod oes aur y cofiant wedi dirwyn i ben tua'r 1870au wrth i ffurfiau eraill ar lenyddiaeth greadigol ddod i'r amlwg ac wrth i'r cofiant ei hun ymwadu â'r traddodiad cynhenid gan ddilyn yn hytrach batrwm y 'Life and Letters' hamddenol a oedd mewn cymaint o fri yn Lloegr. Hwyrach mai'r dyfarniad awdurdodol hwn a fu'n rhannol gyfrifol am y diffyg diddordeb ysgolheigaidd a fu yn y llu o gofiannau a gyhoeddwyd yn ystod degawdau olaf y ganrif ddiwethaf a blynyddoedd cynnar y ganrif hon. Gwnaethpwyd peth defnydd ohonynt fel ffynonellau hanesyddol, wrth gwrs, ond prin iawn yw'r sylw a roddwyd iddynt fel enghreifftiau o ffurf lenyddol, er bod ymwybyddiaeth o nodweddion a strategaeth y ffurf (yn arbennig y modd y ceisir troi cronicl o ddigwyddiadau bywyd y gwrthrych yn stori) yn hanfodol bwysig i'r sawl a fyn wneud defnydd effeithiol ohonynt fel ffynonellau hanesyddol. Hwyrach hefyd fod ansicrwydd ynglyn â statws llenyddol y cofiant o'i gymharu â llenyddiaeth 'bur' yr amharodrwydd i'w ystyried fel ffurf o ysgrifennu creadigol oherwydd pwysigrwydd ei sylfaen ffeithiol wedi llesteirio twf diddordeb ynddo. Fodd bynnag, nid damcaniaethu yw prif bwrpas yr astudiaeth hon ond, yn hytrach, amlinellu hanes paratoi'r mwyaf uchelgeisiol o ran techneg a chynnwys o'r cofiannau a ymddangosodd rhwng canol y 1870au a'r Rhyfel Byd Cyntaf, cofiant a ysgrifennwyd gan lenor a geisiai greu cyfanwaith llenyddol er gwaethaf ymyrraeth teulu'r gwrthrych ac anawsterau difrifol eraill. Prif ffynhonnell yr astudiaeth yw'r ffeil o ddogfennau sy'n ymwneud â'r cofiant a gasglwyd ac a drefnwyd gan T. Gwynn Jones yn ystod mis Mai 1914. Dengys ei ofal amdanynt ei fod y pryd hynny yn ystyried fod y cofiant yn llawn cyfwerth â'i gyfansoddiadau llenyddol eraill.