Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi ‘O, GARIAD NA'M GOLLYNGI I' Wedi clywed canu emyn gorchestol George Matheson mewn oedfa gymun Ym Methel heno unai torf ynghyd i seinio profiad syfrdan sant o fardd a gefnodd er ystalm ar dyndra byd heb un gymynrodd ond ei folawd hardd. Ar lif y gân fe'm cipiwyd innau draw at sgolor dall Innellen yn ddi-oed a'i weld yn profi, wedi'r ing a'r braw, hen afael Duw mor gadarn ag erioed. A garw fyth na wyddai'r Sgotyn hwn i'w gyffes eirias, bedwar-pennill 0 wisgo'r Gymraeg a phlwyfo yma'n grwn rhwng bryniau henwlad Dewi yn ei thro, yn llafar na bu'i fath i bob rhyw un a ddaliwyd gan gyfaredd Mab y Dyn. JOHN EDWARD WILLIAMS