Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BROGARWCH Aeth bellach ddeugain mlynedd heibio ar gyflym dro er awr fy nghefnu eiddgar ar gulffyrdd yr hen fro. A phur anaml mwyach yr af i'w golwg hi nes tynnu arnaf gollfarn ei henwyr, ddau neu dri. Ond ni wyr un ohonynt wrth gwyno yn ddi-daw mai ofn y chwyrn ddadrithiad o hyd a'm ceidw draw. Ac megis gwr a dorro ar lyfr ei enw'n syth o feddu cyfrol amhris a bery'n drysor byth, gwybyddwch, fwyn gyfoedion a chriw'r dihiraeth iach, bod f'enw ar Felin Marian, Glan Llyn a phont Craig Bach. Ac erys pob ysgythriad Ymhell 'r ôl dydd fy nhranc yn dyst i wyllt frogarwch rhyw anghofiedig lane. JOHN EDWARD WILLIAMS