Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bedwyr Lewis Jones (1933-1992) Ym marw sydyn ac annhymig Bedwyr Lewis Jones collodd Cymru un o'i meibion gorau ac un o'i chymeriadau mwyaf lliwgar. Ysgolhaig, llenor, golygydd, eisteddfodwr, darlithydd, darlledwr, a Chymro tra chariadus. Er 1974 ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Er 1990 buasai yn aelod o Gyd- bwyllgor Cynllunio ac Adnoddau Prifysgol Cymru, ac ef oedd Cadeirydd cyntaf Pwyllgor Pwnc y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Yr oedd yn un o'r ychydig ysgolheigion proffesiynol a oedd yn adnabyddus i'r werin-bobl. Pan glywodd fy mrawd-yng- nghyfraith y newydd am ei farwolaeth ar y teledu dywedodd wrth ei wraig fod 'y dyn 'na a arferai gadw gôl i Amlwch wedi marw'. Dyna'n union y math o stori y byddai B.L. J. wrth ei fodd yn ei chlywed, ac wrth ei fodd wedyn yn ei hailadrodd. 'Doedd ef ddim fel athrawon eraill. Nid athro wrth-ei-swydd ger desg gaeth a darllenfa gyfyng ydoedd, ond cennad dysgedig a oedd yn barod bob amser i ddarlithio i gynulleidfaoedd bach a mawr ym mhob man. Pan fu farw yr oedd newydd lunio darlith y gofynnwyd iddo ei thraddodi yn Nenmarc. Bron na ellir ei glywed yn dweud, 'Dw-i'n edrach ymlaen; bydd hi'n braf cael trip. 'Waeth i mi fynd i Ddenmarc mwy na Llaneilian ddim.' Gallasai ddweud hynny am iddo fod yn athro mor ffyddlon i Laneilian hefyd i bob Llaneilian, i Laneilian pawb. Ymfalchiai'n fawr yn ei swydd: yr oedd cael eistedd yng Nghadair John Morris-Jones a'i olynwyr nodedig yn aruchel fraint iddo. Yr oedd yn Athro ac yn athro da, yn fugail gofalus o'i braidd ac yn ddarlithydd brwd. A mynnai gadw hen gysylltiad y Brifysgol a'r werin. Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r W.I. a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a